Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

1.— Y mae yr awdwr am hysbysu ddarfod iddo ddechreu ar y Gwaith hwn tua deuddeng mlynedd yn ol, ar gais Cyhoeddwr llyfr mawr cenedlaethol, yn mha un yr addewid y cynrychiolid enwogion yr holl Enwadau Cymreig; ond erbyn edrych, ni chai y Wesleyaid eu lle yno. Wedi gweled y cam a gafodd Wesleyaeth yn yr achos, torodd yr awdwr bob cysylltiad a'r Cyhoeddwr uchod, a gorweddodd llawer o'r ysgrifau yn farw am flynyddoedd.

2.—Pan ail ymaflwyd yn y gwaith a ddechreuasid fel yna, cafwyd fod llawer o'n tadau a'n brodyr wedi marw yn ystod y deng mlynedd diweddaf; a gwelwyd mai nid gorchwyl bychan oedd gorphen y Gwaith, trwy ei ddwyn i lawr i'r amser presenol.

3.—Teimlasom gryn anhawsder i fyned yn mlaen o ddiffyg defnyddiau at lawer cymeriad; ac er gofyn i bersonau ag oeddynt yn fwyaf tebyg o allu ein cynorthwyo, ni chafwyd dim help oddiwrth neb ond y Peirch. Lot Hughes, Wm. Jones, ac Owen Owen. Yr ydym yn cyflwyno ein diolch diffuant i'r brodyr crybwylledig am eu cymhorth. Cawsom help mawr oddiwrth Mr. Hughes.

4.—Ffynnonau ein cymhorth oeddynt Fywgraffiadau pendant llawer o'r Gweinidogion—yr Eurgrawn Wesleyaidd—Cofnodau y Gynadledd—Adgofion personol yr awdwr am amrai o'n brodyr ymadawedig am y pum mlynedd ar hugain diweddaf — a'r help a roddwyd yn garedig gan y tri Gweinidog rhag—grybwylledig.