Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/8

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

5.—Lles y werin Wesleyaidd, a'n cenedl yn gyffredinol, oedd mewn golwg gan yr awdwr pan yn ymgymeryd a'r Gwaith hwn: a pha anmherffeithrwydd bynag a wel llygad y beirniad ynddo, cymerwn noddfa yn nheilyngdod y cymeriadau, yn nhuedd lesol y llyfr, ac yn yr amcan oedd mewn golwg.

6. Y mae yr awdwr yn rhy gyfarwydd â llyfrau ac ag ysgrifenu i gael ei demtio i wneyd tegan neu ddelw o'r BYWGRAFFYDD;' yr ydym am iddo fyned blith—dra—phlith i fysg ein pobl, a chael sylw ar bob aelwyd, fel y byddo yn foddion i ddeffroi pechaduriaid, ac i gyffroi pobl dda at grefydd yn ei holl agweddau.—Gan gyflwyno yr oll i law yr Hwn a all fendithio pob ymgais i ledaenu rhinwedd ar y ddaear, ac a all gyfodi plant i Abraham yn fwy lluosog na ser y nef,

Gorphwysaf,

Eich ufyddaf Wasanaethwr,

YR AWDWR

Medi, 1866.