Tudalen:Y Cychwyn.djvu/117

Gwirwyd y dudalen hon

wannach wannach ddydd ar ôl dydd. Ista' yn y gadair 'na tra bydda' i'n picio i Nymbar Wan. Cadw dy lygaid arno fo."

"Mae o'n cysgu 'rŵan, Taid."

"Fel'na mae o wedi bod drwy'r dydd, yn anesmwyth o effro un munud ac wedyn yn cysgu, cysgu. Mi fydd y lle 'ma'n rhyfadd hebddo fo. A mi dorrith Esthar Tomos y drws nesa' 'i chalon yn lân. Efo hi yr on i'n 'i adael o i fwrw'r Sul pan awn i i ffwrdd i bregethu. Yr argian, a dyna groeso gawn i pan ddown i'n ôl ddydd Llun! . . . 'Fydda' i ddim dau funud."

Eisteddodd Owen yn llwm yn y gadair. Drwy'r ffenestr gyferbyn gwelai'r nef yn gwaedu ar greigiau miniog y Clogwyn, ond nid oedd ganddo ddiddordeb yn y machlud mwyach, ac ni ddôi darnau o retoreg llithrig i'w feddwl. Syllodd yn drist ar yr hen gi wrth ei draed, gan wrando ar ei anadlu cryg, anniddig. Nid oedd Carlo, ac yntau'n gymysgedd o gi defaid a spaniel, o uchel dras, ond ar ddüwch dwfn ei gorff yr oedd marciau gwynion prydferth iawn a dywedai cromen hardd ei ben i un o'i hynafiaid fod yn bendefig ymhlith cŵn. Pa wahaniaeth beth. oedd? Ef oedd y ci gorau a anadlodd erioed, yr addfwynaf, y mwyaf serchog, y ffyddlonaf. Yr hen Garlo! Byddai Taid yn unig iawn hebddo. Siaradai ag ef am oriau bob dydd, a gwrandawai yntau mewn doethineb mud. Dysgasai ef i fegian, i gyfrif â'i bawen, i ysgwyd llaw, i ganu, a hyd yn oed i wenu. "Gwena 'rŵan, Carlo," meddai 'i feistr, a chodai'r ci ei wefus uchaf a dangos ei ddannedd yn chwyrn. Dim ond dieithriaid ofnus a oedd yn ddigon anghwrtais i beidio â gwenu'n ôl.

Yr oedd Owen Gruffydd yn oedi yn nhŷ Harri Hughes, a safodd Owen wrth y ffenestr yn gwylio'r machlud yn pylu a'r Clogwyn yn mynd yn ddim ond llinell bigog yn erbyn disgleirdeb y nef. O'r diwedd goleuodd y lamp ac eisteddodd eto yn y