gadair. Mor dlawd a blêr yr edrychai'r gegin, meddyliodd. Rhywfodd, ac yntau'n gwisgo mor barchus a gofalus bob amser, ni chysylltodd ei daid â thlodi, ond cofiodd yn awr fod ei fam yn gyrru tamaid o fwyd neu rywbeth yn aml i Dŷ Pella'. Syllodd ar y tyllau ym mreichiau'r soffa, ar y mat treuliedig ar y llawr, ar y rhwyg safnrhwth yn un o lenni'r ffenestr. Ac eto cyfrannai Owen Gruffydd yn hael yn Siloam ac at wahanol achosion dyngarol yn yr ardal, a phrynai docyn i bron bob cyngerdd ac eisteddfod. Ond nid rhyfedd ei fod yn dlawd: aethai'n rhy hen bellach i grwydro i gyhoeddiadau pell, a dim ond mewn pentrefi gweddol agos y pregethai mwyach. 'Faint oedd oed Taid? Yr oedd yn siŵr o fod yn dair neu bedair ar ddeg a thrigain. Pam yn y byd na ddôi i fyw atynt hwy i Dyddyn Cerrig? Ond dyna fo, Taid oedd Taid, ac ni adawai'i hen aelwyd pe cynigid iddo holl aur Periw.
Cydiodd Owen mewn nodlyfr bychan a oedd ar gongl y bwrdd. Tu fewn i'w gas du yr oedd enw Owen Gruffydd ac of dan hwnnw, "At wasanaeth Pwyllgor Cylchwyl Lenyddol Siloam, 1893—4." Yna ceid cofnodion amryw o bwyllgorau a fu wrthi'n ddyfal yn dewis testunau a beirniaid a phennu gwobrwyon, ac yng nghanol y llyfr restr o'r cystadleuthau. Gwyddai Owen fod hon yn gyfrinachol, ond taflodd olwg cyflym trosti i weld beth a ddewiswyd yn ddarnau adrodd. Yna dechreuodd ei darllen yn hamddenol, ond ag un glust tua'r drws.
RHYDDIAETH
1. Traethawd—Natur a dyben goruchwyliaeth Moses. |