swpar heno." Ond yr oedd Apostol Dirwest, fel yr hoffai gael ei alw, ar ei urddas ac yn benderfynol o gyfiawnhau ei enw.
Nid oedd Owen yn hoff iawn o'i weinidog. Y prif reswm efallai oedd nad ymddangosai'r dyn yn naturiol. Bu Ebenezer Morris arall yn un o "hoelion wyth" y Cyfundeb, a cheisiai'r ail efelychu'r cyntaf, gan grychu'i dalcen a chwarae â'i farf a thynnu'i law drwy'i wallt a cherdded yn urddasol a chodi'i lais fel y gwnaethai'i gyfenw. Ond cul oedd talcen, tenau oedd gwallt a barf, bychan oedd corff, a gwichlyd oedd llais "R hen Eb," ac, er na chredai ef mo hynny, nis breintiwyd â gwreidd- ioldeb nac â dychymyg anghyffredin. Efallai mai ei lais tenau, gwichlyd, a roes fod i'r stori amdano'n pregethu un nos Sadwrn mewn Cyrddau Mawr ym Mryn Llwyd. Dechreuasai rhywun arall y gwasanaeth iddo, ac yna dringodd "R hen Eb" i bulpud uchel, hen-ffasiwn, y capel. Dim ond darn o'i ben, o'i drwyn i fyny, a welai'r gynulleidfa, a phan gyhoeddodd y wich of lais y testun, "Nac ofnwch, Myfi yw," yr oedd gwên hyd yn oed. ar yr wynebau mwyaf Piwritanaidd.
Dirwest oedd ei bwnc mawr, ac yn ei freuddwydion, ynghwsg ac yn effro, fe'i gwelai'i hun yn Ddafydd a âi allan i ladd Goliath y ddiod. Taranai-neu gwichiai, yn hytrach-yn erbyn yr anghenfil bob cyfle a gâi, ysgrifennai lythyrau ffyrnig i'r papurau. newydd, a chynigiai benderfyniadau mewn cyfarfodydd o bob math.
"William Davies!" meddai eto, dipyn yn uwch. Clywai Owen ei galon ei hun yn curo'n wyllt yn y distawrwydd. A Wil yr oedd ei holl gydymdeimlad, a theimlai y medrai guro pennau Ebenezer Morris ac Ifan Ifans yn ei gilydd. Cododd o'i gadair ac aeth at ymyl y gweinidog. "Os caniatewch chi i mi siarad efo fo ar ôl capal, Mr. Morris, yr ydw' i'n siŵr . . . "
"Y mae achos Dirwest yn y lle 'ma," meddai Ebenezer Morris yn uchel, gan ddiystyru Owen, "yn hawlio gwyliadwriaeth wastadol ar ein rhan, a phan ganfyddwn un o'n plith