hiddiw mae'r hen graig yn fwy o werth na'r tir mwya' ffrwythlon yn y wlad. Dim ond am i daid Oswald Meyricke dorri'i enw wrth ochor enwa'r chwarelwyr oedd yn codi tai arni." "Wrth ochor croes y rhan fwya' ohonyn' nhw."
"Croes mewn mwy nag un ystyr. Ond 'aeth o ddim i'r draffarth hyd yn oed i dorri'i enw, mae'n bur debyg. Tipyn o gyfreithiwr oedd yn gwneud hynny trosto fo, a 'fynta'n mwynhau'i hun yn Neheudir Ffrainc ne' yn yr Eidal ne' rwla."
"Ia, ond paid di â llenwi dy ben efo problema' fel'na, Now bach." Er bod Owen bellach lawer yn dalach na'i frawd, "Now bach" y galwai Dafydd ef o hyd. "A chofia di beidio â chynilo gormod 'rŵan, a byw heb y llyfra' a'r petha' sy arnat ti 'u hangan."
"Diolch, Dafydd, ond . . . ond be' amdanat ti?"
"Fi?"
"Ia. 'Chydig o blesar wyt ti'n gael, yntê?—byth bron yn mynd am dro i Gaer Heli na . . . na . . . "
"Na be'?"
"O, 'wn i ddim, ond . . ."
"Ond byth yn mynd allan i garu, a'r 'gennod dela'n cael 'u bachu o dan fy nhrwyn i?"
"Wel . . . "
Chwarddodd Dafydd. "Mi ddaw rhyw glamp o aeres, yn rholio mewn arian, heibio un o'r dyddia' 'ma, wsti. Ac wedyn nid i'r Bala y byddwn ni'n dy yrru di ond i Oxford ac ar ôl hynny i'r 'Mericia."
Ar y bore Sadwrn cyntaf yn Hydref yr oedd priodas Elin, a mawr fu'r cyffro yn Nhyddyn Cerrig yr wythnos honno. Gan mai Miss Lucy Roberts, yr wniadwraig leol, a ofalai am ddillad y briodferch a'i mam, galwodd ei phrentis, Mary, yn y tŷ droeon a sylwodd amryw mor rhwydd y gwridai hi ac Owen yng ngŵydd eraill. Enid a oedd i fod yn forwyn briodas a disgwylid