Tudalen:Y Cychwyn.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 1

COFIAI am fore Llun yn niwedd Gorffennaf a'r ysgol newydd dorri ac yntau'n fawr ei siom am na châi fynd i'r chwarel. Yr oedd yn ddeuddeg oed—wel, o fewn mis i hynny, beth bynnag—ac yn dalach a chryfach hogyn na Huw Rôb a Wil Cochyn, ei gyfeillion yn yr ysgol.

Deffroes yn gynnar iawn y bore Llun hwnnw, a gwelai fod rhywun yn symud yn hanner-gwyll yr ystafell. Ei frawd Dafydd yn gwisgo amdano. Ffrydiodd chwerwder i feddwl Owen fel y cofiai fod Huw Rôb a Wil wrthi'n ymwisgo y munud hwnnw hefyd, a throwsus melfared newydd gan bob un o'r ddau. A daeth atgof am y prynhawn Gwener cynt a Huw a Wil yn mynd adref o'r ysgol efo'i gilydd yn dalog, wedi rhoi heibio am byth bethau bachgennaidd fel "syms" a llyfrau-darllen a llyfrau-ysgrifennu. Cerddai ef ugain llath tu ôl iddynt yng nghwmni Cecil Rowlands—"Cecil Mami" i hogiau mwyaf yr ysgol a gwyliai hwy'n eiddigus, Huw Rôb yn poeri rhwng ei ddannedd, a'i fawd yn nhwll-braich ei wasgod, a Wil Cochyn yn sgwario'i ysgwyddau a gwyro o ochr i ochr fel llongwr. Teimlai Owen ei fag-ysgol yn faich ofnadwy, ac er ei fod yn hoff o Mr. Roberts, athro ifanc Standard V, gwgodd ar ei gefn wedi iddo fynd heibio iddo ef a Cecil ar y ffordd.

"Mi wyddost be' mae dy dad wedi'i ddeud," ebe'i fam amser te. ""Rwyt ti i aros yn yr ysgol am flwyddyn arall. Mi gei fynd i'r chwaral pan fyddi di'n dair ar ddeg a dim cynt."

"Ond mi gafodd Dafydd fynd yn ddeuddag oed."

"Mae pethau'n well arna' ni erbyn hyn, a'r 'gennod a Dafydd yn gweithio. Mi ddylat fod yn falch o'r cyfla i gael addysg. 'Chydig iawn o ysgol ges i na'th dad, a'r hen Ddefis y Sgŵl ers