eu gadael. "Yr argian, rhwng y chwaral a phregethu mi fydda' i'n ennill arian mawr."
"Byddi, 'r hen ddyn, ond mi fydd 'u hangan nhw arnat ti i fynd i'r Coleg. A 'wyddost ti ddim . . . " Tawodd, mewn cyfyng gyngor.
""Wn i ddim be'?"
""Taet ti'n cael pwl o afiechyd ne' rwbath . . . "
"Fi?" Chwarddodd Owen yn uchel.
"George yn deud dy fod di'n edrach yn llwyd."
"Mi ddylwn gymryd tipyn o'r ffisig mae o'n gael tua'r Crown 'na."
"Rwyt ti wedi gweithio'n ofnadwy o galad tra buon ni gartra', wsti. Ac os ei di 'mlaen fel hyn . . . Piti na chaet ti fynd i'r Bala 'na fis Medi."
"Ond . . . "
"Dydi 'Mam na Thaid na finna' ddim yn licio'r hen beswch 'na sy gin' ti."
"Twt, tipyn o annwyd. Mi eiff o efo'r gwanwyn 'ma . . . Efo'r gwanwyn 'ma." Ailadroddodd y geiriau'n beiriannol, gan gofio'n sydyn mai rhai tebyg a fu ar dafod Iorwerth Hughes, Tai Gwyn.
"Rhaid iti gymryd gofal, Now bach. Mae'r iechyd mor bwysig â dim, wsti."
"Rwyt ti'n swnio'n union fel Huw Jones, Dafydd." A chwarddodd Owen eilwaith. Yna safodd ar y ffordd. "Clyw!"
"Be'?"
"Y gog. 'Oes gin' i bres yn fy mhocad? Oes, fachgan !" "Mae hi'n swnio'n o agos hefyd. Wrth yr eglwys, dywad? Yng nghoed y fynwent, mae'n debyg."
"Ia . . . Ia, yng nghoed y fynwent. Rhyfadd, yntê?" "Rhyfadd? Pam?"
Ond nid eglurodd Owen, dim ond dringo'r allt yn arafach, a'i feddwl ymhell.