Tudalen:Y Cychwyn.djvu/227

Gwirwyd y dudalen hon

'Nac ydyn', Margiad Jones,' meddai yntau. 'Deud y maen' nhw nad oes 'na ddim cwymp oddi wrth ras.' "Dydi o ddim ots gin' i,' meddai hitha'. "Dda gin' i monyn' nhw.' . . . "

Chwarddodd pawb, ond troai amryw eu pennau i gyfeiriad y ffordd a arweiniai o'r pentref. Nesâi sŵn lleisiau croch a meddw, yn rhuo clodydd yr Ymgeisydd Torïaidd: "Si la si ba, Si la si basa, Côr-a-bela, côr-a-bela, Sing, ting, a-ringa, Proff. Hughes ydi'r gora', Proff. Hughes ydi'r gora', Y gora', y gora', y GO-O-RA'."

Cyn hir daeth y fintai o wŷr herfeiddiol, a George Hobley a Robin Ifans a Wil Cochyn yn eu plith, i'r golwg heibio i dro yn y ffordd. Aeth William Jones ymlaen â'i araith, gan godi'i lais, ond anodd oedd hoelio sylw'i gynulleidfa bellach, ac ymhen ennyd tawodd i roi cyfle i'r bagad o feddwon ddewis eu lle ar y llethr o'i flaen.

"Mae myrdd o welliannau y rhaid eu dwyn i fywyd y gweithwyr," meddai, "ac fe frwydra'r Blaid Ryddfrydol i'w sicrhau nhw. Byrhau'r diwrnod gwaith, gwell tai, addysg ragorach i'r plant, iawn am niweidiau, blwydd-dâl i'r hen a'r methedig . . . "

"Cweshtiwn!" gwaeddodd Robin Ifans. "Gin' i gweshtiwn." Cododd y Cadeirydd i'w dawelu. "Mi gei gyfla i hynny ar y diwadd," meddai.

"O, chwara' teg, Mishtar Morgan. Dim ond un cweshtiwn, dim ond un bach." Swniai Robin fel petai ar fin torri i wylo.

"Ar ddiwadd y cwarfod a dim munud cynt," ebe Ifan Morgan yn gadarn.