"Na, ychydig iawn. Ond mae rhai o'm cyfeillion gora' i yn ddiwinyddion go dda, ac mi fydda' i'n gwrando'n astud arnyn' nhw'n siarad."
2'Ydach chi . . . 'ydach chi wedi darllan rhwbath o waith Darwin?"
"Do. 'I ddau lyfr pwysica' fo."
"O."
Cerddodd y ddau'n dawel am funud neu ddau, a William Jones yn edmygu'r olygfa—caeau gleision yr Hafod, a'r gwair newydd ei grafu a'i gario oddi arnynt, yr heulwen yn troi nentydd y rhosydd uwchben yn ffrydiau o arian a gemau, a thraw yn y pellter gadernid llwydlas, breuddwydiol, yr hen fynyddoedd. "Mae Cymru'n wlad hardd, wyddoch chi," meddai.
"Ydi."
Safodd William Jones ar y llwybr ymhen ennyd, gan syllu'n hir ar yr olygfa, ac yna cydiodd ym mraich Owen.
"Mi gychwynnwn ni'n ôl 'rŵan," meddai, "rhag ofn bod teulu 'Bryn Myfyr' yn gohirio'u swpar er fy mwyn i."
"O'r gora', Mr. Jones."
"Ac mi siaradwn am—Darwin, yntê?"
Ni ddywedodd Owen ddim.
"Mae'r peth yn gysgod ar eich meddwl chi, ond ydi?"
"Ydi... ers tipyn."
"Felly yr on i'n... amau." Pam yr arhosodd yn sydyn. o flaen y gair "amau"? Ai "Felly yr on i'n deall" a ddechreuasai ei ddweud? A fu rhywun yn siarad ag ef am y peth?
Dafydd pan aeth i'w ddanfon o Dyddyn Cerrig i'r ffordd?
"Pa un o lyfra' Darwin ydach chi wedi'i ddarllan, Owen?"
"Dim un."
"O, mi wela"." Gwenodd, ond yn hynod garedig. "Pan oeddwn i'n hogyn bach, yr oedd arna' i ofn y tywyllwch yn ofnadwy. Mi fyddwn yn deffro yn y nos weithia' ac yn sgrech-