Tudalen:Y Cychwyn.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

acw; a draw i'r dde caea' ac afonydd yn llithro i lawr tuag Afon Menai... Ia... Ia... Uchel yw dy ddeheulaw. . ." Ac ysgydwodd yr hen flaenor ei ben yn ddwys.

"Ia, Lias Tomos, ia, wir," meddai Huw Jones, gan swnio bron yn bregethwrol.

"'Chafodd O ddim llawar o hwyl ar y fargan 'na sy gynnoch chi, Lias Tomos," oedd sylw amharchus George Hobley. "Gwnithfaen bron i gyd, yntê?"

"Mae 'na dda a drwg mewn craig fel mewn pobol, George, 'machgen i," atebodd blaenor yn dawel. "Oes, mae 'na wnithfaen yng nghalon y ddau weithia', wel'di."

Nid oedd Owen yn meddwl cymaint o bartner ei dad ar ôl clywed ei eiriau am y wenithfaen. Teimlai fel y gwnaethai y bore Sul hwnnw pan alwodd Wil Cochyn Dduw yn "hen snîc" am ei fod yn gwylio rhywun ddydd a nos. Wedi iddynt gyrraedd y llwybr lletach tu draw i ysgwydd y domen, cerddodd, yn reddfol bron, wrth ochr Elias Thomas, a thôn ddirmygus ei fam wrth sôn am "y George Hobley 'na" yn atgof annifyr o gryf yn ei feddwl.


Yr oedd Britannia yn bonc lydan braf, a rhes hir o gytiau agored, y "waliau" lle'r oedd y dynion yn hollti a naddu'r cerrig, hyd un ochr iddi ac o'u blaen hwy bentyrrau taclus o lechi o wahanol faint. Rhedai rheiliau drwy ganol y bonc, rhai tua phen y domen ac eraill tua'r Twll. Safai gwagenni rhydlyd arnynt, yn barod i'w llwytho â rhwbel o'r waliau ac â cherrig a baw o'r Twll.

"Yr ydw' i'n mynd i'r Twll, Now bach," meddai Robert Ellis wrth daro'i gôt ar fachyn yn ei wal a gwisgo un arall hen a chlytiog yn ei lle. "Fasat ti'n licio rhedag draw i wal Lias Tomos am dipyn?"

"Ond... ond 'cha' i ddim dŵad efo chi, 'Nhad?"