araith fechan o ddiolch. Ond pan safodd o'u blaen, llanwodd ei lygaid â dagrau a bodlonodd ar ddweud "Diolch yn fawr, diolch o galon, hogia'." yn floesg a thoredig. Gwelodd Benjamin Williams y cyffro yr oedd yr hen ŵr ynddo ac ar unwaith galwodd am "Hwrê fawr" iddo. Atseiniodd y caban a'r bonc deirgwaith i sŵn y bloeddio, ac wedi i'r gymeradwyaeth hir a'i dilynodd dawelu, lediodd Wil Baswr yr emyn "Dan dy fendith wrth ymadael." Torrodd corn haerllug y chwarel ar ei draws, ond ni chymerodd neb sylw ohono. Nid oedd Elias Thomas yn medru canu o gwbl, ond clywai Owen, a safai wrth ei ochr, yr hen flaenor yn dweud y geiriau'n daer a dwys, fel petai'n gweddio:
"Dan dy fendith wrth ymadael
Y dymunem, Arglwydd, fod;
Llanw'n calon â dy gariad
A'n geneuau â dy glod.
Dy dangnefedd
Dyro inni yn barhaus."
A gweddïodd Owen yntau.
"Mae'n rhaid i chi'ch dau gymryd tamad efo fo."
"Na, wir, Sarah Tomos, mi fydd 'Mam yn ein disgwyl ni adra'," meddai Owen. "Dim ond dŵad i gario'r arfa' 'ma yr oeddan ni."
"A finna' wedi gwneud swpar-chwaral spesial heno. Mae'n rhaid i chi aros. Rhowch yr hen arfa' 'na yn y cwt a golchwch eich dwylo wrth y feis." Edrychodd yn daer arnynt a gwyddai Owen a Dafydd ei bod hi'n ofni y byddai'i gŵr yn ddigalon ar ei noson gyntaf fel "gwr bonheddig."
"O'r gora', Sarah Tomos," ebe Dafydd. "Ond mi gawn ni goblyn o dafod pan awn ni adra', cofiwch."