ychydig o sylw a gymerai'r dynion ohonynt, eithr ymgomio am bopeth ond eu gwaith. Pregethau'r Sul a oedd gan rai, a deuai'r geiriau "cyfiawnhad" ac "etholedigaeth" i mewn yn bur aml; siaradai eraill am ysgrifau Thomas Gee ac Emrys ap Iwan yn Y Faner; a chytunai dau ddyn yn ymyl y drws na fu erioed areithiwr fel Mr. Gladstone. Cwynai Huw Jones, a ddaethai i'r Twll erbyn hyn, fod gan ryw Ned Huws y drws nesaf iddo glamp o geiliog croch a'i deffroai am bedwar bob bore.
"Pam na bryni di o gynno fo, Huw?" gwaeddodd dyn arall, 'wag' y bonc.
"I brynu o? I be', dywad?"
"I dalu'n ôl iddo fo, debyg iawn."
"Sut . . . sut wyt ti'n feddwl, Robin?"
"Wel, os pryni di o, dy geiliog di fydd yn 'i ddeffro fo wedyn!"
Chwarddodd amryw, ond gwrando am sŵn y ffrwydriad yr oedd clustiau Owen.
"'Dydi'ch un chi ddim wedi tanio eto, 'Nhad?"
"Ddim eto. Mae'r ffiws yn un go hir, wsti."
"Ond mi fydd 'na gy.. goblyn o daran mewn munud," meddai George Hobley.
Ac yr oedd, pan dorrodd, yn "goblyn o daran", a'i hadlais dwfn yn crwydro'r bryniau a thrwy gilfachau pell y mynyddoedd Gwenodd Owen yn falch ar ei dad, awdur y rhu.
"Mae 'na sŵn go dda yn hon'na," meddai Huw Jones
"Ne' dyna ydw' i'n feddwl, beth bynnag."
"Piti na chaet ti daran fel'na yng nghefn y tŷ am bedwar bob bora, Huw," meddai'r 'wàg' gan ysgwyd ei ben yn freuddwydiol. "Mi fasa'n boddi sŵn yr hen geiliog 'na, wsti."
Owen oedd un o'r rhai cyntaf i frysio allan o'r cwt pan ganodd y Corn Heddwch am naw munud wedi'r awr. Gwelai fod plygion mawr islaw'r cwmwl o lwch lle bu'r saethu, a bod y graig, a fu'n llefn, yn fylchau bellach. Cerddodd yn dalog rhwng ei dad a George Hobley, gan benderfynu dangos ei nerth a'i