o ddallt eich bod chi'n gwella cystal. Mae 'na hanas cynhebrwng hogan Edward Edwards, Tŷ Crwn hefyd, a phriodas Llew'r Hafod, a'r Cwarfod Sefydlu yng nghapal Tabor."
Daeth y nyrs i mewn â the i'r claf, arwydd ei bod yn bryd i'r ymwelwyr gychwyn ymaith.
"Mi ddaw 'Mam ac Enid i fyny am dipyn heno, 'Nhad," meddai Dafydd.
"O'r gora', Deio . . . 'Ydi'r Doctor yma'r pnawn 'ma, Nyrs?"
"Rydw i'n 'i ddisgwyl o ar ôl te, Robat Ellis. Pam?"
"Mi liciwn i 'i weld o . . . "
"Wel, da boch chi rŵan, 'Nhad," meddai'r ddau fachgen hynaf.
"Ta-ta, a 'wna' i byth eto, Tada," ebe Myrddin.
"Hwda, dos â'r deisan 'ma efo chdi, Myr, 'r hen ddyn." A gwasgodd Robert Ellis ysgwydd ei fab ag un llaw a gwthio teisen i'w ddwylo â'r llall. Cerddodd Myrddin allan a'i lygaid yn disgleirio'n llon.
Yn araf a pheiriannol y bwytaodd y tad ei de, heb ei fwynhau. Gorweddai'r papur ar y gwely a syllodd yntau'n ddig arno, fel petai mai ar y papur a'i fân lythrennau yr oedd y bai am ei olwg diffygiol. Cydiodd yn ofnus ynddo a rhoes ef i lawr drachefn. Meddyliodd am Fyrddin bach a'i bib, am Ffowc y Saer a'i ddwylo deheuig, am Ned Tŷ Crwn a marwolaeth sydyn ei unig ferch, ond er ei waethaf llithrar'i feddwl a'i lygaid tua'r tryblith niwlog a oedd yn y papur newydd Yr arswyd annwyl, ef, Bob Tyddyn Cerrig o bawb, yn fyr ei olwg! Ers talm, pan sleifiai i fyny'r afon yn nirgelwch y nos weithiau, yr oedd ei "lygaid cath" yn ddihareb ymhlith ei gymdeithion. A oedd Ned Tŷ Crwn gyda hwy y noson honno pan aeth y cipar o Sais hwnnw ar ei hyd i'r afon? Oedd, debyg iawn, rhedeg ar ôl Pyrs Bach, brawd Ned, yr oedd y cipar ar y pryd, a Phyrs yn