gwyro'n sydyn ar fin yr afon ac Adams yn baglu trosto nes... Ond... ond gallai rhywbeth gwaeth na bod yn wan ei olwg ddigwydd iddo. Beth... beth ped âi'n ddall? Rhoes y gorau i'w fwyd a rhythu'n llwm ar y papur ac yna drwy'r 'ffenestr. "Wel, wir," meddai'r nyrs pan ddaeth i mewn a gweld y brechdanau heb eu bwyta, "wnewch chi ddim tyfu'n ddyn fel hyn, Robert Ellis! 'Does dim o'i le ar y bwyd, gobeithio?"
"Na, mi ... fytis i ormod i ginio, mae arna' i ofn... Nyrs?"
"Ia?"
""Ydi'r Doctor wedi cyrraedd?"
"Ddim eto." Croesodd at y ffenestr i syllu ar y ffordd a droellai o'r ysbyty tua'r pentref. "O, dacw fo'n dwad yn 'i drap, yn ymyl y Bont Fain. Pam yr ydach chi isio'i weld o?"
"Yr ydw' i'n poeni am y llygaid 'ma. Mi ddaeth Dafydd â'r 'Llusern' imi gynna', ond 'fedra' i ddim gwneud rhych na rhawn o'r print."
"Mi ddeudith o'r un peth ag a ddeudis inna' wrthach chi bora 'ma. Ond mae'n well iddo fo gael eich gweld chi ar unwaith, rhag ofn."
Rhoes y Nyrs weddillion y te o'r neilltu ac aeth ati'n wyllt it dwtio'r ystafell cyn i'r meddyg gyrraedd. Wedi iddi gael Robert Ellis i edrych-ac i deimlo-fel pin mewn papur, rhuthrodd ymaith i nôl y taclau glanhau, a phan ddychwelodd yr oedd y frawddeg "Lle mae'r llwch 'na ?" wedi'i naddu'n ddwfn ar ei hwyneb. Gwthiodd y gwely arall a oedd yn yr ystafell tua'r ffenestr, ac yna aeth ar ei gliniau i dynnu'r llwch oddi ar y llawr.
"Dyna'r drwg efo rhyw dipyn o Hospital fel hon. Mae rhywun yn gorfod gwneud pob math o betha'. Dyna chi Jane 'nghnithar yn Lerpwl-nyrsio a dim arall. Braf ydi'i byd hi."
"Ydi Doctor Williams yn gwbod tipyn am lygaid, Nyrs?" "Ydi, debyg iawn. 'Does 'na ddim doctor gwell na fo yn y wlad 'ma-pan fydd o'n sobor... Hy, Jane 'nghnithar yn