cwyno 'i bod hi'n methu cael amsar i drwsio'i 'sana' hyd yn od. Ond dyna fo, esgus iawn am fod yn un mor flêr, yntê?"
"'Ydi Doctor Williams wedi trin damwain fel hyn o'r blaen, Nyrs?"
"Dwsina' ohonyn' nhw . . . 'Wn i ddim o b'le mae Jane yn dŵad, na wn i, wir. A'i thad hi a'i mam hi yn rhai mor dwt a thaclus bob amsar."
"'Oedd 'na rai ohonyn' nhw'n cwyno efo'u llygaid, Nyrs?"
"Oedd, amryw, am dipyn. Y sioc, wrth gwrs. Be' arall sy i'w ddisgwyl ar ôl ergyd fel'na i'ch pen ? . . . Na, 'dydw' i ddim yn dallt Jane o gwbwl, mor flêr a hitha' mewn lle fel Lerpwl.
'Ydach chi'n cofio'i thad hi-John Wmphras, John Larts' chwadal nhwtha'?"
'Faswn i'n 'nabod rhai ohonyn' nhw,
"Ydw'n iawn.
Nyrs?"
""Nabod pwy?"
"Rhai o'r dynion oedd yn cwyno efo'u llygaid." ""Wn i ddim. 'Rhoswch chi imi gael trio cofio . . . Wel, dyna hwn'na-er nad ydi Doctor Williams ddim yn debyg o sylwi a ydi'r lle yn lân ai peidio. Y gwely 'na'n ôl 'rwan . . . Mae'r Doctor yng ngwaelod yr Allt Hir, mi fydd yma mewn pum munud . . .
Dyn bychan, tew, oedd y Doctor, a barf fel un bwch gafr ar ei ên, a honno, fel ei wallt tenau, yn britho'n gyflym. Ym- ddangosai'i ben lawer yn rhy fawr i'w gorff, ac nid rhyfedd iddo suddo i mewn rhwng ysgwyddau'i berchennog, gan wneud i rywun feddwl am iâr yn ei phlu. Edrychai'r ardal ar y Doctor fel "cymeriad", a mwynhâi yntau hynny, gan wneud a dweud pethau anghyffredin. Siaradai'n dawel a breuddwydiol, fel petai'i feddwl ymhell, ond mewn gwirionedd yr oedd y llygaid, a ymddangosai'n swrth a difater tu ôl i'r sbectol ddiymyl, yn rhai hynod graff. Yn ôl pob hanes, byddai wedi dyfod yn