Tudalen:Y Cychwyn.djvu/44

Gwirwyd y dudalen hon

feddyg o fri oni bai iddo ei yfed ei hun allan o swyddi a chylchoedd pwysig yn Llundain. Yr oedd pobl Llan Feurig--a Huws y Crown yn arbennig—yn falch iawn o'r Doctor, ac er yr ysgydwai apostolion Dirwest eu pennau'n drist pan sonient amdano, daethai'r ardal oll i ganiatáu bod i athrylith ei phenrhyddid ei hun.

"Wel, a be' ydi hyn ydw' i'n glywad amdanat ti?" gofynnodd pan ddaeth i mewn i'r ystafell. "Ti" y galwai ef bawb yn ddiwahân.

"Fy ngolwg i, Doctor. 'Fedra' i ddim darllan y papur 'na."

"Hm. 'Rwyt ti'n lwcus."

"Lwcus?"

"Yn methu darllan 'Y Llusern.' Piti na fasa' pobol y cylch 'ma i gyd yr un fath â thi." A chofiodd Robert Ellis fod ymgyrch ddirwestol frwd newydd gychwyn yn y papur a bod un gohebydd wedi cyfeirio at "esiampl meddyg galluog mewn ardal arbennig."

Troes y doctor at y nyrs. "I don't suppose you've got an opthalmoscope here, Nurse?" gofynnodd yn ddiog, fel pe na bai'r peth o ddim pwys.

"No, indeed, we haven't, Doctor."

"No. I'll bring mine along to-morrow."

Gwyrodd uwchben y gwely a daliodd ei fys i fyny.

"Dilyn di 'mys i efo'th lygaid, ond paid â symud dy ben . . . Hm . . . Hm . . . 'Fedra' i ddim deud yn iawn tan 'fory, ond yr ydw i'n meddwl mai codi bwganod yr wyt ti. Y shoc, yr optic nerve wedi cael ysgytwad. Mi fedri ddarllan 'Y Llusern' bob gair 'mhen ychydig ddyddia', mae'n debyg—colofn Ebenezer Morris a phopeth, os ydi hynny o ryw galondid iti." Y Parch. Ebenezer Morris, gweinidog Siloam, a daranai fwyaf yn erbyn melltith y ddiod. "A 'rŵan, Nyrs, y dressing 'ma . . . Hm, mae dy goco-nyt di'n gwella'n iawn, beth bynnag."