Yr oedd yr olaf o gleifion yr hwyr newydd adael y surgery pan aeth Dafydd yno, a galwodd y meddyg ef i mewn ato ar unwaith.
"Mi wyddost fod dy dad yn cwyno efo'i lygaid, mae'n debyg?"
"Na, 'ddaru o ddim sôn wrtha' i, Doctor . . . 'ydi o?"
"Ydi, yn methu darllan na gweld ymhell drwy'r ffenast'."
"O . . . yr ydw' i'n dallt 'rŵan."
"Y? Dallt be'?"
"Pam yr oedd o'n gwylltio efo Myrddin bach pnawn ddoe.
'Ron i newydd roi'r papur iddo fo. Mi edrychodd arno fo ac wedyn mi wylltiodd yn gacwn am fod Myrddin yn cadw sŵn."
"Hm . . . m. Mi fùm i'n archwilio'i lygaid o bora 'ma."
"Wel, Doctor?"
"Mae gin' i wydr bach sy'n medru edrach i mewn drwy'r llygaid at y nerf tu ôl iddyn nhw. A 'dydw' i ddim yn licio golwg yr optic nerve."
"Be' mae hynny'n olygu, Doctor? Y rhaid iddo fo wisgo sbectol?"
"Fel y gwyddost ti, rhyw fymryn o ddoctor bach yn y wlad ydw' i—Doctor Williams Llan Feurig, a 'does dim disgwyl imi fod yn awdurdod ar bopath. Mae hwn yn achos lle dylid galw Specialist i mewn."
"A be' ydach chi'n 'i ofni, Doctor?"
Ond nid atebodd y meddyg. "Glywaist ti am Sir Andrew Sinclair?" gofynnodd.
"Naddo, wir, pwy ydi o?"
"Un o ddynion gora'r Deyrnas 'ma ar y llygaid."
"Lle mae o'n byw?"
"Yn Llundain 'rŵan, ond mae o'n digwydd bod yn aros yn ymyl Caernarfon yr wythnos yma. A 'fynta' ar 'i wylia', mae'n bur debyg mai fy rhegi i wneiff o os gofynna' i iddo fo ddŵad i weld dy dad, ond mi wnes i gymwynas â fo unwaith yn Llundain ac efalla' y bydd o'n cofio hynny. Os liciet ti a'th fam imi drio'i gael o yma . . . "