Tudalen:Y Cychwyn.djvu/49

Gwirwyd y dudalen hon

anghyffredin. Ar yr olwg gyntaf edrychai'n ŵr llym, anhyblyg, a phan oedd Owen yn ieuangach, yr oedd arno ofn ei daid a'i lygaid treiddgar a'i leferydd pwyllog, pregethwrol. Yn arbennig ar ambell Sul pan gâi Owen Gruffydd gyhoeddiad yn Siloam a chyfle i hyrddio byd a betws i dragwyddol golledigaeth. Yn yr oedfaon hynny crynai bron bawb yn y capel rhag 'llidiowgrwydd ei ddicter ef': nid Owen Gruffydd Tŷ Pella' a daranai o'u pulpud, ond rhyw Amos neu Eseia a gyhoeddai ddigofaint Duw yn erbyn Israel Ofnadwy a rhyfedd oedd huodledd Owen Meurig.

Ei enw barddol oedd "Owen Meurig", ac er na fentrai lawer tu allan i Golofn yr Awen yn "Y Llusern" yn awr, tystiai'r ddwy gadair dderw ym mharlwr Tŷ Pella' i'w ddwy gerdd "Sodom o Gomorrah" a "Jeroboam" gyrraedd tir uchel iawn, y naill yn eisteddfod Bryn Llwyd a'r llall yn Aber Hen. Ac ar furiau'r un parlwr hongiai tua deg ar hugain o fedalau arian wrth rubanau amryliw, yn brawf o athrylith Owen Gruffydd fel adroddwr eisteddfodol gynt. Yn yr un ystafell hefyd, mewn unigrwydd urddasol ar fwrdd bychan, safai'n cwpan arian a enillodd Côr Meibion Chwarel y Fron yng Nghaer Heli. Ond byr fu hoedl Owen Meurig fel arweinydd côr, er ei fod yn gerddor pur dda: nid oedd cyffelybu'r baswyr i gorn Enlli a'r tenoriaid i werthwyr penwaig na holi'n ddwys am annwyd rhai o'r altos y math o gefnogaeth a fwynhâi'r cantorion, a phan aeth yr arweinydd gam ymhellach un noson ystormus a dweud wrthynt am "fynd i ganu", i ganu yr aethant—ond dan faton fwy amyneddgar.

Rhoesai Owen Gruffydd y gorau i'r chwarel ers blynyddoedd, gan fyw ar ei enillion fel pregethwr achlysurol ac fel beirniad mewn eisteddfodau. Trigai ar ei ben ei hun yn y Tŷ Pella', bwthyn ar gwr y pentref, ond âi ef a'i gi, Carlo, i Dyddyn Cerrig i swper ddwywaith neu dair bob wythnos. Ddegau o weithiau ar ôl marw ei mam y ceisiodd Emily Ellis. gymell ei thad i ymgartrefu gyda hi a'i theulu, ond yr oedd ef yn