dadfeilio'n o gyflym y dyddia' yma, ond ydi? Ydi, wir." Yna cydiodd yn ei gôt a'i gwisgo, casglodd ei arfau at ei gilydd, a cherddodd ymaith yn dalog heb air pellach. Ychydig flynyddoedd tros ei hanner cant oedd ef y pryd hwnnw, a byth er hynny. pregethwr achlysurol, adroddwr, areithiwr, beirniad eisteddfodol, a thipyn o lenor fu Owen Meurig. Main oedd ei fyd yn aml, ond ac yntau'n annibynnol bellach, yn rhydd i godi'i ddwrn yn wyneb pob camwri, ac i grwydro pan fynnai i'r Cyfarfod Dosbarth a'r Cyfarfod Misol, ni phoenai lawer am hynny. O waelod ei chalon diolchai Elin ei wraig, a welsai drueni rhai a drowyd o'u cartrefi yn ogystal ag o'r chwarel ar ôl etholiad, nad oedd Tŷ Pella' ar ystad Oswald Meyricke.
Nid âi Owen Gruffydd ar gyfyl Tyddyn Cerrig yn y dyddiau hynny, gan wrthod maddau i'w ferch Emily, cannwyll ei lygaid ef ac Elin, am briodi'r cawr anhydrin Robert Ellis. Oni fu ef, ei thad, am dros ugain mlynedd yn Ysgrifennydd "Cymdeithas Ddirwestaidd Llan Feurig"—y "Titotaliaid gythral 'na", ar lafar rhai mwy sychedig—gan drefnu Cymanfa a gorymdaith flynyddol na bu eu hafal yn yr holl sir? Ac onid yn erbyn melltith y ddiod y lluniodd ef rai o'i bregethau grymusaf, gan hyrddio'r meddwyn i'r 'tywyllwch eithaf', neu i 'lyn yn llosgi o dân a brwmstan'? Pan glywsai gyntaf am y garwriaeth, ffromodd yn aruthr, a bygythiodd yrru'i unig ferch tros y drws. Onid oedd y llanc a'i dad Dafydd Ellis a bron bawb o'r teulu ffiaidd yn nhir gwrthgiliad? Yr argian fawr, mab Dafydd Ellis y llofrudd, creadur a laddodd ei dad ei hun!
Nid oedd hynny'n hollol wir am Ddafydd Ellis. Syrthiasai plyg yn y chwarel ar gefn ei dad a threuliodd yr hen Effraim weddill ei ddyddiau mewn cadair. Ond ni chadwai hynny ef o'r Crown gwthiai'i fab ef i lawr i gefn y dafarn yn rheolaidd ddwywaith bob wythnos, a rhoddai focs a'i ben i fyny wrth ei ochr ac ar hwnnw dri pheint, ei ddogn o gwrw. Ond un hwyr, wedi pwl o afiechyd, hawliodd yr hen Effraim ddogn pythefnos