yn y sedd gefn wrthi'n sibrwd pethau sbeitlyd amdano. Âi, fe ai i'r ysgol drannoeth—i ddweud wrth Jones y Sgwl am gadw'i Saesneg tragwyddol a hanes brenhinoedd a brwydrau Lloegr. Yr oedd yn well ganddo ef fod yn 'fonitor' ym Mhonc Britannia nag yn Standard VI.
Ac eto yn nyfnder ei feddwl corddai anesmwythyd mawr. Elias Thomas . . . Taid . . . 'Mam. Pam . . . pam y newidiodd y tri mor sydyn? A oedd a wnelo'r ddamwain rywbeth â'r peth? Na, edrychai'i dad yn iawn, cyn gryfed ag erioed. Yr oedd yn werth ei weld yn symud yr hen garreg honno ddoe wrth lidiard Tŷ Pella'. Yr oedd yn dawelach nag arfer efallai er pan ddaethai adref o'r ysbyty, ond yr oedd hynny'n ddigon naturiol ac yntau gartref yn segur a heb golli diwrnod o waith drwy'r blynyddoedd.
Fel y troai Owen o'r ffordd i'r llwybr a redai tua'r tŷ, clywai chwerthin uchel Myrddin yn yr ardd. Peidiodd ei chwibanu ac arafodd ei gamau. Ni wyddai pam, ond daeth eto i'w feddwl yr olwg ar wyneb ei dad pan syllodd i lawr ar y plât brynhawn Mawrth. Pam yr oedd ei fam mor gas wrth Myrddin? A pham . . . pam yr edrychodd ei fam a'i daid ar ei gilydd am ennyd fel petai . . . fel petai rhyw gyfrinach rhyngddynt? Yr oedd rhyw ddirgelwch yn rhywle.