Tudalen:Y Cychwyn.djvu/68

Gwirwyd y dudalen hon

am funud. Yr argian fawr, 'Bob Llygaid Cath', chwadal Ned Tŷ Crwn, fel twrch daear yn fan hyn!" Chwarddodd yn chwerw wrth eistedd eto yn ei gadair.

"Roeddach chi'n sôn am yr Offis, 'Nhad."

"Ôn. Dywad wrth Jones-Parry 'mod i wedi colli 'ngolwg yn 'i chwaral o ac y bydd hi'n o dena' arno' ni fel teulu os na chei di fy hen fargen i. Mi wn i nad ydi o ddim yn hoff ohonat ti, ond . . . "

"Hoff! Gin' i mae'r clogwyn sala' yn y Twll. Dwybunt a chweugian ges i y mis dwytha' er i mi a Dic fy mhartnar slafio i drio gwneud cyflog. A'r cwbwl am inni'n dau gario banar y Rhyddfrydwyr drwy'r lle 'ma amsar y Lecsiwn. 'Dydi Jones-Parry ddim yn madda', 'Nhad. 'Tawn i wedi cario banar y Toris, fel y gwnaeth Wil Sam a Robin Ifans a rhai tebyg, mi faswn mewn bargen heb 'i hail. A 'dydi bod yn Ysgrifennydd yr Undab yn y bonc ddim yn fy ngwneud i'n Sant yn 'i olwg o."

"Dos di i'r offis ato fo a dywad wrtho fo fel y mae petha' arno' ni."

"O'r gora". Mi bicia' i yno bora 'fory."

"Gofyn iddo fo am fy margen i. Mae hi'n werth i'w chael 'rŵan, ar ôl y tunelli o faw gawson ni ohoni y mis cynta' hwnnw."

"Wel . . . "

"Gofyn di iddo fo am fy margen i. 'Wnei di, Dafydd?"

Aeth Dafydd yn wyliadwrus. Tu ôl i'r llygaid dall, fe deimlai, yr oedd meddwl ei dad fel petai'n rhythu arno, yn ceisio crafu'r gwir oddi arno.

"Ia, dyna fydd ora', efalla'," meddai. "Pe cawn i'r fargen. efo George Hobley tra byddwch chi gartra', mi fydd yn ddigon hawdd iddyn' nhw fy symud i wedyn. 'Fydda' i ddim gwaeth, mi wn i hynny: mi gân' nhw waith i ddŵad o hyd i le salach na'r un sy gin' i 'rŵan, myn diagan i."

Ond drannoeth, pan ddychwelodd adref o'r gwaith, nid oedd gan Ddafydd newydd da.