Tudalen:Y Cychwyn.djvu/69

Gwirwyd y dudalen hon

"Roedd o'n hel pob math o esgusion," meddai. "John Hwmphras y Stiward Gosod am aildrefnu'r bonc, medda' fo, ac fe fydd yn rhaid iddo fo gofio am yr hen weithwyr, ac felly 'mlaen. Mi ga' i wbod gynno fo ddiwadd y mis."

Ond ni ddywedodd ef nac Owen wrth eu tad fod Robin Ifans, a gariodd faner Oswald Meyricke, yn gweithio yn y fargen ers dyddiau ac yn brolio'r cerrig breision a gâi ohoni.

Ni hoffai'r Parch. Owen Ellis fyth edrych yn ôl ar y misoedd rhwng dallineb a marwolaeth ei dad. Yr oedd y teulu'n dlawd iawn, a thros bobman a phopeth yn Nhyddyn Cerrig gorweddai cysgod yr afiechyd a ymosododd yn araf ond yn ystyfnig ar y cawr o chwarelwr.

Tlodi gellid ei ymladd ef, a dewr y brwydrai pob un o'r teulu—Enid, morwyn yn nhŷ Richard Davies, y Stiward; Dafydd ac Owen yn y chwarel; y fam fechan, ddiwyd, yn ei chartref; a hyd yn oed Myrddin, a fodlonai heb ei ddimai ar brynhawn Sadwrn. Tlodi: yr oedd pob llaw yn ddwrn i'w erbyn ef. Ond afiechyd: ni thyciai'r dyrnau caletaf ddim: yr oedd ei ymgyrch ef mor llechwraidd, mor ddidostur, mor sbeitlyd.

"Sut ydach chi'n teimlo hiddiw, 'Nhad?" oedd y cwestiwn a ofynnai Dafydd neu Owen bob hwyr pan gyrhaeddent adref o'r chwarel, a chlywent, fel yr âi'r wythnosau heibio, dristwch y "Symol" yn newid i anobaith y "Go dila, fachgan." A gwelent nad colli'i olwg yn unig a wnaethai'u tad wedi'r ddamwain. Cwynai fod ei galon yn curo'n wyllt, rhedai cryndod annifyr drwy'i gyhyrau, chwysai a blinai'n fuan fuan, ac yr oedd yn teneuo'n gyflym ac yn mynd mor nerfus ag aderyn. Ond gwrthodai'n lân adael i'r meddyg ei weld. Pan awgrymai rhywun hynny, gwylltiai a gwaeddai: "Be' fedrodd y locsyn. bwch gafr hwnnw wneud i 'ngolwg i? Dim! Dim coblyn o ddim! A 'dydw' i ddim yn mynd i dalu am 'i gwrw fo am