mai i Ddafydd yr oedd ei ddyled drymaf. "Chafodd neb erioed well brawd," oedd ei sylw'n aml pan gofiai am ymdrech y dyddiau gynt.
Yn y chwarel i ddechrau. Rhedai Dafydd i lawr i Bonc Britannia bron bob awr ginio i weld sut y deuai'i frawd ymlaen ac i'w hyfforddi yn ei grefft, gan ddysgu iddo bopeth a wyddai ef. Ac fel y sylwai Owen ar fechgyn eraill o 'rybelwyr', sylweddolai mor hynod ffodus ydoedd. Pigo'u crefft i fyny orau y gallent a wnâi amryw ohonynt, heb neb arbennig i'w cynghori a chan ddibynnu ar garedigrwydd oriog hwn a'r llall am glwt o garreg i'w hollti a'i naddu'n llechi i'w cyfrif ar ddiwedd mis. Hynny fu hanes Wil Cochyn ym Mhonc Nelson, ac âi Wil druan adref ar nos Wener Cyfrif, wedi mis o waith, heb ddim ond rhyw ddeuswllt neu hanner-coron i'w roi i'w fam weddw. Efallai fod peth bai arno ef am hynny, gan ei fod yn ddynwaredwr medrus, a phan âi ar neges i ennill clwt, oedai yma ac acw i ymarfer ei ddawn, tra holai'r chwarelwr a'i gyrasai lle'r oedd "y Cochyn diawl 'na" cyhyd. Er ei fod dan adain ei dad yn yr un bonc, dim ond triswllt a oedd gan Huw Rôb ar ddiwedd ei fis cyntaf a thri a grot ar derfyn yr ail, ond nid oedd ei ddwylo ef, yn ôl a glywai Owen, yn rhai deheuig iawn, a châi'r enw o gam-drin yn lle trin ei gerrig. Ond, ac Elias Thomas a Dafydd yn ei hyfforddi'n eiddgar a'r "George Hobley 'na" er ei holl ffaeleddau yn ŵr hynod hael, rhoes Owen goron i'w fam ar ei nos Wener Cyfrif gyntaf a chweswllt ar yr ail. Ac yn awr, yn y gwanwyn cynnar, enillai tuag wyth swllt y mis yn rheolaidd, a hynny heb orfod 'begera' fawr ddim. Y gŵr y siomwyd ef fwyaf ynddo yn y bonc oedd yr hen Ifan Ifans y blaenor. Cawsai ddau neu dri o glytiau ganddo am redeg ar negesau trosto, ond pan âi ati i'w trin ni châi lechi o faint na gwerth ohonynt. Un ai yr oeddynt "fel coed" chwedl George Hobley, heb ddim hollti ynddynt, neu yr oedd y crawennau'n malurio o dan y gyllell-naddu. "Mae'n rhaid fod yr hen Ifan Ifans mewn lle sâl ofnatsan," meddai Owen wrth Elias Thomas un prynhawn ar ôl methu'n