"Lle mae Dafydd?" gofynnodd pan gyrhaeddodd y gegin.
"Yn twtio tipyn yn yr ardd gefn. Pam?"
"Dim byd. 'Dydw' i ddim i fod i sôn gair wrth neb."
"Am be'?"
"Dim byd."
"Am y chwaral?"
"Ddeudis i mo hynny, naddo?"
"Hy, mi wn i."
"Be'?"
"Mae Richard Davies wedi'i wneud yn Stiward Gosod."
"Mae pawb yn gwbod hynny, ond nid dyna oedd gen' i."
"Be' 'ta'?" "Rhwbath am Ddafydd, ond 'ddeuda' i ddim."
"I be' oeddat ti isio Dafydd 'ta'?"
"'Wnes i ddim ond gofyn lle'r oedd o. 'Oes 'na rwbath o'i le yn hynny?"
"Enid?"
"Ia?"
"'Ddeuda' i ddim gair o 'mhen. 'Ddaru o sôn am y fargen?"
"Ar dy lw?"
"Cris—cros, tân poeth, chwadal Myrddin."
"Cofia di, 'rwan. Mrs. Davies ddaru siarad efo fi. Deud bod Dafydd wedi cael cam byth ar ôl y Lecsiwn a bod Mr. Davies am ofalu y ceiff o chwara' teg 'rŵan. Mae o'n meddwl lot o Dafydd, medda' hi, ac os medar o, mae o am roi hen le Tada iddo fo. Ond 'doedd hi ddim i fod i sôn dim am y peth wrtha' i. 'Wnei di ddim cymryd arnat, na wnei?”
"Dim peryg'."
Deallodd Robin Ifans ddiwedd yr wythnos honno ei fod i ailgychwyn yn ei hen fargen fore Llun, a dathlodd George Hobley'r amgylchiad yn y Crown yn lle mynd adref i fwrw'r Sul. Dywedodd droeon wrth y dynion a'i hebryngai i fyny'r Lôn Serth, ymhell wedi un ar ddeg nos Sadwrn, ei fod wedi cael