Tudalen:Y Cychwyn.djvu/82

Gwirwyd y dudalen hon

gwared o'r "Robin Ifans diawl 'na" o'r diwedd. Ac yntau mor feddw, ni sylweddolai fod Robin yn un o'r cwmni. Bore Llun ar y ffordd i'r chwarel, yr oedd Owen yn un o bump—ef a Dafydd, Elias Thomas a Huw Jones, ac Ifan Rowlands, tad Cecil. Yr oedd y bore'n loyw a'r awyr yn denau, a chofiai Owen am fore tebyg, flwyddyn ynghynt, pan oedd ei dad yn eu plith. Ai hynny a oedd ym meddwl ei gymdeithion hefyd? Yr oeddynt oll yn dawedog iawn. Rhedai eco'r traed hyd doau'r tai, llusgai Huw Jones ei glocsiau, cliriai Ifan Rowlands ei wddf fel petai'n Farnwr ar fin cyhoeddi dedfryd, anadlai Elias Thomas yn drwm, ond ni ddywedai neb ddim. Yna, o'r diwedd, fel y gadawent y pentref o'u holau, "Mae'r hogyn acw yn dechra' yn y dre hiddiw," meddai tad Cecil.

"Ydi o, wir?" ebe Huw Jones, ond heb frwdfrydedd. Er na wnâi ef fawr fwy yn y capel na chadw trefn ar seddau ôl y Band of Hope, gofalu bod bysedd y cloc yn dangos yr amser iawn ar ddechrau gwasanaeth, a rhedeg dŵr i'r seston ar gyfer bedydd, gwelai ddigon ar Cecil i beidio â'i hoffi, yn arbennig ar ôl clywed barn hogiau fel Owen a Huw Rôb a Wil Cochyn amdano. "Mewn siop, yntê?"

"Y?"

Dyn llariaidd oedd Ifan Rowlands, ond swniai'n gas yn awr.

"O, meddwl imi glywad be'-ydi-i-henw-hi yn deud 'i fod o'n mynd i siop be'-ydach-chi'n-'i-alw-fo. Honno sy ar y Maes ddeudodd hi, dwch? Ne' honno sy yn Stryd y Cei? 'Fedra' i ddim bod yn siŵr, wir."

"Dydi o ddim yn mynd ar gyfyl yr un siop, ar y Maes nac wrth y Cei. Mae o'n dechra' yn offis Roberts y Twrna' bora 'ma."

"O, deudwch chi. Wel, gobeithio y bydd o'n fwy gonast na'i