Tudalen:Y Cychwyn.djvu/85

Gwirwyd y dudalen hon

"Faint maen nhw am roi iddo fo?" gofynnodd George Hobley yn awr.

"Swllt y dydd."

"O ... Damnia, mi rown ni ddeunaw iddo fo 'ta'. Mi fedrwn fforddio hynny, a ninnau'n cael cerrig mor freision, Dafydd."

Canodd y corn. "Chawn ni ddim cerrig o fath yn y byd fel hyn," ebe Dafydd, gan droi ymaith. "Ron i wedi bwriadu saethu pnawn 'ma. Tyd, Now." Yna, ar ei ffordd tua wal Elias Thomas, "Mi gei di benderfynu, yntê, 'r hen ddyn?" meddai wrth ei frawd.

"Yr ydw' i wedi penderfynu," atebodd Owen.

"O?"

"Ydw'. At yr hen Lias a Huw Jones yr ydw' i am fynd. Hen ddyn iawn ydi Lias Tomos, yntê, Dafydd?"