yn y wers. 'Rydach chi'n sbwylio'r pwdin i minna' hefyd. 'Ron i'n gweld yr hanas yn un diddorol iawn nes imi ddechra' trio'i egluro fo i chi, y cnafon."
"O, chwara' teg, 'roeddan ni'n gwrando'n o lew hiddiw."
"Ym mh'le'r oedd y wers?"
"Yn yr Actau, debyg iawn. Yr unfed bennod ar bymthag."
"Be' oedd ynddi hi?"
"Hanas Paul a Silas."
"Yn be'?"
"Yn mynd ar daith."
"I b'le?"
"I . . . i Troas."
"Ac oddi yno?"
"I Philippi."
"Lle mae hwnnw?"
"Ym Macedonia."
"A lle mae Macedonia?"
"Yng ngwlad Groeg ddeudist ti, dywad?"
"Ia, yng ngwlad Groeg . . . Hm, 'rwyt ti wedi dysgu mwy nag on i'n feddwl."
"Wnei di ddal ymlaen, Dafydd?"
"'Wn i ddim. Mi feddylia' i am y peth tan amsar Seiat nos Fawrth."
Ond nos Lun daeth dirprwyaeth i Dyddyn Cerrig—Huw Roberts a William Davies, neu, ar lafar, Huw Rôb a Wil Cochyn, y ddau'n ceisio edrych mor ddifrifol â phe baent mewn angladd.
"Ydi Dafydd yn tŷ, Mrs. Ellis?" gofynnodd Huw, llywydd y ddirprwyaeth, mewn llais dwfn, a chan besychu'n bwysig.
Cuddiodd Wil ei wên fawr, ddanheddog, tu ôl i gefn ei gyfaill.
"Ydi, mae o ac Owen yn y gegin. Dowch i mewn."