"Diwrnod darllan Y Faner ydi hiddiw, yntê? Mi soniwn ni am y peth wrth y dynion, ac os ydyn' nhw'n cydsynio, mi geiff Owen ddechra' darllan ddydd Llun. Mi rydd hynny amsar iddo fo ddewis y darna' cynta'n ofalus ac, os myn o, i redag trostyn' nhw efo'i daid, Owen Gruffydd."
"O'r gora', Lias Tomos. Diawch, mi tydd 'na lond y caban cyn diwadd yr wsnos nesa', 'gewch chi weld. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag. 'Nenwedig ac adroddwr fel Now 'ma'n 'i ddarllan o inni. Llais uchal fel un George Hobley i Wil Bryan, llais fel eich un chi i Abal Huws, llais Dafydd i Bob, llais . . . "
"Sut ydach chi hiddiw 'ch dau?" galwodd Robin Ifans ar ei ffordd heibio i'r wal. Yna safodd yn syfrdan. "Diast i, mae 'na dri ohonoch chi, ond oes? 'Welis i mo'r dyn bach 'na, wchi. Bora braf?"
Y gwir a broffwydasai Huw Jones: cyn diwedd yr wythnos wedyn yr oedd llond y caban ar hanner olaf yr awr ginio, ac ym mhlith y gwrandawyr rai dynion o bonciau eraill a glywsai am ddoniau 'darllenwr' Ponc Britannia.
"Diawch, prygethwr ddyla' Now 'ma fod, wchi," oedd sylw aml Huw Jones yn y wal yn ystod yr wythnosau canlynol. "Yntê, mewn difri, Lias Tomos?"
"Wel, mae o'n darllan yn hynod o dda, Huw. Ydi, fachgan, ydi, yn hynod o dda. Ydi, wir, fachgan, ydi."
Pam yr oedd Elias Thomas mor ochelgar, tybed? Ni wyddai Owen, ond cofiai'r amser pan soniai'r hen flaenor am wneud pregethwr ohono er ei waethaf. Aethai pum mlynedd heibio er hynny, a bellach, gan iddo fynnu cael dyfod i'r chwarel, yr oedd Elias Thomas—a Dafydd a Thaid hefyd—am iddo fod yn chwarelwr, mae'n debyg. Câi ddwybunt a choron y mis bellach a phob cyfle i ddysgu gwaith y Twll yn ogystal â'r wal, ac ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy cymerai Elias Thomas neu