Yr oedd Dafydd ab Edmwnt yn ffigiwr pwysîg yn ei ddydd, a chymerodd ran amlwg yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1451 i ddodi rheol ar y beirdd a'u barddoniaeth. Un o Hanmer, Tregeingl, Sir Fflint, ydoedd, a bu farw tua 1500. Y mae eî gywydd i Sion Eos yn brotest yn erbyn lladd am ladd.
Nai a disgybl i Ddafydd ab Edmwnt oedd Tudur Aled, y prif ddyn ymhlith beirdd ei oes, a'r awdurdod pennaf ar gelfyddyd cynghanedd. Yr oedd yn feistr ar ddywediadau byrion, disglair, cynhwysfawr. Gŵr bonheddig ydoedd, a'i ddiwylliant yn blodeuo yng nghanol hamdden. Trigai yn Llansannan, Sir Ddinbych.
Un o ardal Llansannan oedd Gruffydd Hiraethog hefyd, a chan Dudur Aled yr hyfforddwyd ef. Daeth yntau yn athro beirdd, ac yn eu plith yr oedd William Cynwal, Simwnt Fychan, Siôn Tudur a Wiliam Llŷn.
"Nid oes dim yn anwybodus i Willam Llyn," meddai Gruffydd Hiraethog. Tybir mai un o Lŷn ydoedd, ond fe aeth i Groesoswallt i fyw. Yr oedd yn ŵr o ddychymyg byw, ac yn ddigon digonfensiwn i fedru canu yn ei ddull ei hun yn lle yn ôl y patrwm. Y mae ei farwnad i Gruffydd Hiraethog, a'i farwnad i Syr Owain ap Gwilym yn dangos dwyster gwir gyfeillgarwch a chariad.