Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Un o'r un wlad oedd yn dala drych (looking-glass) o flaen ei wyneb, ac ar yr un pryd yn cauad ei lygaid, yr hyn a wnaeth i un ag oedd yn bresennol ofyn iddo ei reswm am hyny, dim, ebe yntau, ond cael gweled pa fodd yr wyf yn edrych pan byddwyf yn cysgu.

Offeiriad, nid pell o Langefni, a gyfarfu â Chrynwr (Quaker) ar y ffordd, ac yn lle myned heibio yn fwynaidd, fel oedd yn ofynol, fe ddechreuodd gellwair â'r Crynwr, gan ofyn iddo, Pa le oedd eich crefydd chwi cyn amser George Fox? Yr un man a dy grefydd dithau cyn amser Harry Tudor. Gâd i minnau ofyn un cwestiwn i tithau, Pa le yr oedd Jacob yn myned pan gadawodd ei ddeng mlwydd oedran, a elli di atteb? Na allaf, na thithau 'chwaith, ebe mab Aaron. Gallaf yn wir, ebe y crynwr, gallai dyn wrth y naill lygad weled trwy ddo; yr oedd yn dechreu ar ei un flwydd ar ddeg, oedd e' dim?

Dau ddyn oedd yn trafaelu tuâ Llanfairmuallt, a gyfarfuant â llu o ladron, pa rai a'u hyspeiliodd hwynt o'u holl arian, ar ol hyny, y lladron a'u rhwymodd hwynt draed a dwylaw, ac a'u taflasant un bob ochr i'r clawdd. lle buont yn gwaeddi ac yn ochain, llawer o oriau: o'r diwedd, un o honynt yn ei drallod, a ddolefodd, Fe'm dybenwyd, fe'm dybenwyd, Attolwg, ebe y llall, os dybenwyd dy ryddhau, tyred yma, a gwna yr un peth â minnau: nid wyf yn deall y ffordd i ddechreu.

Dau Wyddyl aeth i weled dihenyddio y mwrddwr yn Hwlffordd, gofynodd un o honynt, os oedd gwahaniaeth rhwng yr hongian hyny a'r hongian mewn sibedau? Oes peth, ebe'r llall, fe gaiff hongian mewn sibedau 'holl ddyddiau ei fywyd, ond yma, ni chaiff hongian ond o ddautu hanner awr.

Nid llawer o flynyddau yn ol, yr oedd mynydd Treeastell yn cael ei afonyddu yn greulon, gan ladronach a dynion drwg, y rhai oedd yn ddychryn i drafaelwyr; ar ryw dro, un o honynt a chwennychodd ychydig arian ag oedd gŵr o Langiwc yn tybied fod yn eiddo iddo. Y lleidrin a ymaflodd yn ei wddf, ac a regodd fod yn rhaid iddo gael ei arian; nid heb ymladd am danynt, ebe y trafaelwr, doed a ddel Buont yn paffio dros dro, hyd