Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nes daeth yr yspeiliwr i gredu fod un pâr o draed yn well nâ dau o ddwylaw; ond ar gais rhai oedd yn myned heibio, annogwyd y gorchfygwr i fyned â'r troseddwr o flaen ustus oedd yn byw yn agos yno, yr ustus a ddechreuodd ymholi am y sarhad, gan ofyn am y lledrad oedd wedi gynnyg; ond gan na chyflawnwyd y weithred ebe'r ustus, rhaid i chwi dyngu eich bod mewn ofn corfforol, onite ni allaf ei anfon i'r carchar; Ofn, ebe brenin y pawl, na wna, na wna, myn d———l, nid wyf ar fwriad i dyngu celwydd, ac fe fyddai yn waradwydd i mi byth; ond os cyfarfyddaf âg ef mwyach ni bydd ei groen mor deneu.

Cyfreithiwr, yn y sessiwn diweddaf, yn Nghaerloyw, a gymmerth yn ei ben i gellwair â hen wr gwladaidd oedd yn byw'n agos i Tewksbury, gan ofyn iddo, Pa beth sydd gyda chwi i ddweud dros eich hunan, wyneb y mochyn? Yr wyf yn tebyg, ebe Glanbryd, y gwna fy wyneb cig môch i a'th ben llo dithau ddysglaid dda o fwyd.

Yn Portsmouth, pan oedd un o'r llongau rhyfel yn barod i hwylio, ceisiwyd gan un o'r morwyr fyned i barth isaf y llong i ofyn peth diod; na wna, na wna, waith tra byddwyf fi yno, fe hwylia y llong, minnau gaiff fy ngadael ar ol.

Tri ysgolhaig ag oedd yn tebyg eu hunain yn berchen llawer o ffraethineb, a gyfarfuant â hen wr gwladaidd ar y ffordd, yn agos ——, ac o unfryd a aethant i goethi âg ef yn lled drwsgwl, ac yn gwneud defnydd o gecraeth i gyffroi ei nwydau, ebe un o honynt, bore da i chwi, fy nhad Abraham, yr ail a ddywedodd, bore da i chwi fy nhad Isaac, bore da i chwi fy nhad Jacob, ebe y trydydd; Yn wir, dylwyth, nid wyf nac Abraham, Isaac na Jacob, ond Saul fab Cis, yn ceisio asynod fy nhad, ac o ddamwain mi a'u cefais.

Dau ŵr yn marchogaeth yn dynn, o ——— i ——— a oddiweddasant felinydd ar y ffordd, yr hwn oedd yn myned yn araf ac yn esmwyth ar ei anifail, ac aethant un bob ochr iddo, ac a ddechreuasant ei anmharchu yn greulon â thafod drwg, gan ofyn iddo, Pa