Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un ai cnâf neu ffŵl oedd ef fwyaf? Yn wir, nis gwn, ond yn bresennol yr wyf yn sicr fy mod rhwng y ddau.

Y brenin a aeth yn ddiweddar i hela, i'r llanerch newydd, yn Hampshire, a llawer o bendefigion y llys gydag ef, ond yn yr helwriaeth, collodd y brenin yr holl gymdeithion, ac ni wyddai yn iawn pa lwybr i gymmeryd, o'r diwedd, fe ganfu lanc gwladaidd wrth berth, ac a aeth ato; gofynodd y brenin, pa beth oedd yr achos ei fod yn sefyll yn unig yno? Yr wyf wedi clywed fod y brenin i ddyfod i hela y ffordd hon, ac yr wyf yn chwennych yn fawr ei weled; Dos di yn fy 'sgil, a mi a a'th ddygaf i le y byddai yn sicr o gael edrych arno, ebe y brenin. Ond pa fodd y gallaf wybod pa un o'r helwyr a fydd ef, ebe y Taeog? Di gei weled pawb yn tynu ei hetiau iddo, ac ni bydd neb heb fod yn bennoeth ond efe ei hun, ebe y brenin; ac yn fuan ar ol hyny darfu iddynt orddiwes y lleill o'r helwyr, pa rai fu ryfedd ganddynt weled y fath ysgil-gist gan ei fawrhydi. Y llanc, pan welodd pawb yn bennoeth, a regodd, rhaid mai un o honom ni ein dau sydd frenin.


Uftus yr heddwch ag oedd yn byw yn agos i —— a ganfu y Parch. Mr. E. offeiriad plwyf —— yn marchogaeth ar geffyl golygus, a ddywedodd wrth ei gyfeillion; y mae ceffyl y gwalch acw yn rhy dda i gludo ei fath ef; caiff beth iaith gellwerus mor gynted ag y daw atom; a chan gyfeirio ei hun at yr offeiriad, fe a'i anerchodd ef â Syr, Nid ydych chwi'n canlyn siampl eich athraw mawr, yr hwn a ddarostyngodd ei hun i farchogaeth ar asyn. Yn wir, ebe yr offeiriad, y mae y fath annhrefn yn bresennol yn y wladwriaeth, ond prinder sydd yn peri gwnaethwyd y fath nifer o asynod yn ustusiaid yn ddiweddar, fel ag yr wyf wedi gorfod bwrw fy morddwydydd ar gefn hwn, ond er mwyn bod yn agos at y patrwn, ac i'ch boddloni chwithau, ni hidia i ddim llawer i symud y cyfrwy

Mab ieuanc, heb fod llawer oddi gartref, a aeth i eglwys Saint Paul, yn Llundain, ond cymmerth rhyw chywgi y fantais arno ac a ladratodd ei het, parodd hyn iddo wneuthur achwyniad wrth un o'r addolwyr am ei golled; ac er ei gysur, cafodd gynghor gan hwnw, os deuai yno yr eilwaith, fod yn rhaid iddo wylio a gweddio.