Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/14

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Gwr o fro Morganwg a roddodd fenthyg gini i gymmydog, ac nid oedd gydag ef fawr o ffydd yn y talment, end i'w fawr ryfeddod, fe gafodd y benthyg yn ol, yn gyson â'r addewid; yn mhen o ddautu fis, fe ddaeth yr un gwr ato eilwaith, i ymofyn y ffafr o fenthyg deg gini, Na wnaf yn wir, ebe y gwr, yr ydwyt wedi fy nhwyllo unwaith, a mi a wnaf reg na che di ddim ail gynnyg.

Offeiriad gwladaidd, yn agos i Fachynlleth, ar bryd. nawn Sabbath y gauaf diweddaf, a ranodd ei deftun i bedwar ar hugain o benau; un o'r gynnulleidfa a gododd yn ddisymwth, i fyned allan o'r eglwys, pan yr ymafodd dyn arall ynddo, a gofyn iddo, i ba le yr oedd yn myned, Adref i ddodi fy mherwig ar fy mhen, ni a fyddwn yn sicr o fod yma hyd y bore.

Gwalch lled sychedig, wedi gwario ei holl arian cyn hanner tori ei syched, ac nid oedd neb a'i coeliai am werth grot, pe trengai; o'r diwedd a aeth a'i Fibl i'w wyftlo, ond y tafarnwr a'i gwrthododd, ac a gychiodd yn arw am ei gynnyg. Yr ydych, ebe yntau, yn pallu cymmeryd fy agair i, ac am hyny mi dreuais air Duw i chwi, ac ni wna un o honynt y tro.

Dau fachgen oedd yn gweithio yn ngwaith tân Pendarran, yn agos i Ferthyr, yr oedd pob peth yn gyffredin rhyngddynt, yn cyd gysgu ac yn cyd-fwyta; yr eedd un o honynt yn afradlon iawn, a'r llall yn gorfod cadw y goden bob amser, ond yn y nos fe arferai ye eferwr ryw ddichell i ladrata yr arian, fel y gorfu arno eu cuddio yn yr yftafell, ond wrth fanwl chwilio, fe lwyddai y glwth i gael gafael ynddynt Beth a wnaf, ebe y trysorwr wrtho'i hun, mi a'u dodaf y tro nesaf yn ei goden ei hun, ac oni lwyddaf yn y man hyny, nid gwiw treio un man arall yn ei god ei hun, ni bu mor Hol ag edrych am danynt, yr oeddent mor ddiogel ynə a phe buasent yn cael eu gosod yn Bank Lloegr.

Hen wr, yn agos i Lawreni, a briododd fenyw ieu anc, ond yn mhen ychydig o wythnosau, fe achwynodd wrth gyfaill am ei wail fargain; pan oeddwn yn fy. ieuengayd, eb efe, yr oeddwn yn myned oddi gartref esiau gwraig, ond yn bresennol, y wraig sydd yn myned ar yr un fath o eisiau gŵr.