Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/17

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wyd o flaen Ustus yr Heddwch, i atteb un rhyw ddrwg ag oedd ei gymmydogion yn ei ddrwg-dybio o'r weithred; ond nid oedd un prawf eglur ganddynt i'w gyhuddo. Yr ustus a ddywedodd fod llun drygioni yn ei wyneb yn ddigon eglar. Diolch i chwi, syr, ebe y carcharwr, y chwi yw y cyntaf a wnaeth ddrych (looking-glass) o'm gwyneb.

T. yr amser yr oedd yn yr ysgol, yn, ar ddiwrnod gwresog yn yr haf syrthiodd ei ysgol-feistri gysgu yn ei gadair, yr oedd ei drwyn o faintioli mawr, ac oliw mor goched a thân; yr oedd cilionen yn hedfan o amgylch yr yftafell, ac ar ei thro, disgynodd ar drwyn yr athraw, ond ni wnaeth hir arosfa yno cyn myned ymaith, tybiodd T. wrth liw y trwyn fod gwrês mawr ynddo, yr hyn a wnaeth iddo regu, fod y gilionen wedi llosgi ei thraed,

Dau forwr, wedi mordwyo llawer o flynyddau gydâ'u gilydd, ac yn ffyddlon ymdeithwyr, a wnaethant gyngrair a'i gilydd, os byddai i un o honynt gael ei glwyfo, fod yn rhaid i'r Hall gymmeryd gofal o hono a'i gludo yn fuan at y meddyg; ni bu hir, cyn i un o honynt golli ei glyn, yr hyn a wnaeth iddo waeddi am ei gyfaill, yr hwn a lammodd i gyrchu y clwyfus; cododd ef ar ei ysgwydd, ond cyn ymadael â'r bwrdd, daeth pelen arall. oddiwrth y gelynion, ac a'i difreiniodd ef o'u ben hefyd, ond nid oedd y cludydd yn gwybod dim am y golled ddiweddaf, hyd oni ofynwydd iddo, i ba le yr oedd yn my; ned â'r dyn heb un pen; ar hyn fe a'i taflodd i lawr, gan regu ei fod wedi cael ei dwyllo, am mai ei glyn ä achwynodd wrtho ef, oedd wedi ei chlwyfo!!

T. wedi gwneuthur rhyw fawr ddrwg yn ei gymmydogaeth, fel y gorfu arno gilio am ddiogelwch dros hir amser i Gaerwrangon, le bu yn arfer y gelfyddyd o Lawfeddyg, (Surgeon) a thrwy ei gyfrwysdra fe lwyddodd i gynnal ei hun yn gysurus;yn yr amser dygwyddodd fod y ddinas mewn gorfoledd mawr, ac yn y nos, yr oeddent yn goleuo eu ffeneftri yn gyffredin, s phawb na byddai wedi cynnu canwyllau oedd yn sefyll fiawns am gael eu ffeneftri yn gandryl. T. a ganfu lanc tlws tebyg i wr bonheddig, yn ddiwyd iawn ya darnio y gwydrau; gofynodd iddo, beth oedd yr achos