Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/19

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

at yr esgob i achwyn, Ewch, ebe T. S. nid oes genyf, yr ammheuaeth leiaf na chonffirmia efe chwi.

Un ag oedd yn gwerthu ysgybelli a ddygwyddodd fyned i fiop eilliwr, i eillio ei farf ychydig o ddyddiau. yn ol, yr eilliwr a gymmerodd un o'r 'sgybelli, gan feddwl nad oedd uwch gwerth ceiniog; ond wedi iddo ei eillio, fe ofynodd bris y 'sgybell, attebwyd mai dwy geiniog; O, ebe yr eilliwr, mi a roddaf geiniog, ac os nad ydych yn foddlon, cymmerwch yr ysgybell yn ol. Pa beth sydd arnaf finnau i chwithau am fy eillio i? Ceiniog, ebe'r eilliwr, Mi a roddaf ddimmai i chwi, ac os na fyddwch chwithau boddlon i hyny, rhaid i chwi osod fy marf yn ol fel y cawsoch hi.

T. wedi cael ei gyflogi un waith i ddal drwg-weithredwr ag oedd wedi myned yn rhy galed i holl gwnftebli y gymmydogaeth, ond penderfynodd T. i'w ddal trwy ryw gyfrwysdra; ond wrth ei waith yn myned âg ef i garehar, cynnullodd Iliaws mawr o bobl i weled y dyn yn y dref, gan ofyn "Pa ddrwg a wnaeth, pa ddrwg a wnaeth," Ymaflyd yn y naill ben i goler, ebe T. Dim ond hyny, ebe y werin; Ond chwi a ddylasech ddeall, ebe T. fod ceffyl yn y pen arall !

Gwr bonheddig o Faesyfed, oedd yn chwannog iawn i yfed i ormodedd, a ddygwyddodd gael twymyn galed; ac yn ei glefyd, yr oedd yn sychedig iawn, fel ag y bu i'r meddygon ymgynghori a'u gilydd yn yr yftafell am y moddion gorau i'w esmwythau ef o'r dwymyn a'r syched; yr hyn a barodd i'r claf ofyn cenad iddynt i ddweud un gair, yr hyn gâniatawyd iddo; Wyr boneddigion, eb efe, mi a fentraf gymmeryd hanner y trafferth fy hun; yn unig gwellwch chwi y dwymyn, a gadewch dori y syched i fod yn fy rhan i.

Gwr boneddig arall, o'r un gymmydogaeth, pan oedd ar ei wely angau, a alwodd ar ei gerbydwr, gan ddweud wrtho, ei fod yn myned i siwrnai arw, waeth nag y darfu i chwi fy ngyrru i erioed. O, syr, ebe y gwas, peidiwch a gadael hyny i'ch digaloni, yr wyf yn tybied y bydd eich holl daith chwi ar y goriwaered.--Digon tebyg mai meistr drwg ydoedd.

Swyddog yn y Dublin Militia, a gafodd ei glwyfo