Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/2

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y

DIGRIFWR CYMRAEG, &c.





GWR bonheddig, cyflym ei ddeall, oedd yn marchogaeth yn agos i Lanidloes, a'i was oedd yn ei ganlyn ar draed, ond ar ryw ddamwain, fe ddygwyddodd i'r ceffyl gyrhaedd ergyd ar y gwas; yn ei fyrbwylldra, y gwas a daflodd gareg, mewn bwriad i daro y cefyl, ond yn lle taro y ceffyl, b'le disgynodd y gareg, ond yn drwm ar gefn ei feistr; yntau a edrychodd yn ol, ac a ganfu y gwas yn cosi ei glun ar ol yr ergyd, gofynodd iddo, beth oedd y mater? y gwas a ddywedodd fod y ceffyl wedi ei daro; y mae y cythraul ynddo, ebe ei feistr, fe roddodd gick creulon ar fy nghefn innau.

Hen wraig o Lanarmon yn Ial, oedd yn chwannog iawn i dyngu a rhegu, hyd y nod pan fyddai yn yr eglwys; gorfu ar yr offeiriad, Mr. M. ymresymu â hi'n gyhoeddus un sabbath, ar ynfydrwydd ei hymddygiad, ac yn mhlith geiriau ereill, fe ofynodd iddi, os oedd gwybod rhyw faint am letty tragywyddol y tyngwyr a'r rhegwyr, ac hefyd eu gwaith, sef, wylofain a rhincian dannedd. Taw, taw, ebe'r hen wraig, gad i'r sawl sydd a dannedd ganddynt eu rhincian, nid oes genyf fi gymmaint a bonyn, er ys mwy nag ugain mlynedd.

Ychydig o ddyddiau cyn Pasc diweddaf, mewn pentref yn agos i Gaerbaddon, fe ddygwyddodd i Gwacer giniawa gyda chwech o offeiriaid blonhegog; wedi dybenu bwyta, dechreuwyd yfed peth, ond ar ol i'r glass fyned o gylch fagad o weithau, fe ddechreuwyd yfed iechyd y gŵr da hwn a'r gŵr da arall, a'r dymuniad hyn a'r dymuniad arall, o'r diwedd, daeth yn dro y Crynwr i ddyfod â'i iechyd gerbron, yr hyn a wrthododd yn