Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/20

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn greulon, yn mrwydr Vinegar-Hill, ond yr oedd yn dyoddef ei boen yn araf, pan yr oedd un arall yn yr un amgylchiad yn ei ymyl yn athrist gan ei boen, yr hyn a ennynodd y swyddog gymmaint, ag y liefodd arno am dewi rhag ei gywilydd, gan ofyn iddo, "Os oedd yn tybied nad oedd neb wedi ei ladd ond ei hunan."

Z. Y o Raiadr, cyfaill tra chwannog i dori ei syched, a yfodd yn lled helaeth yn Treclawdd, y gauaf diweddaf; ond yn lle myned tuag adref, fe gysgodd yn y tafarn, wrth y tan; ond tra y bu yn cysgu, llosgodd y naill hanner o'i glyn yn ulw; pan aeth y newydd alaethus ar hyd y dref, yr oedd pawb yn rhyfedd fod y dyn wedi cysgu mor drwm, ac yn ei gwyno yn fawr... Ho, ebe un, clyn bren ydoedd !...

Taeliwr o Gastellnedd, oedd yn myned â dillad adref1 i dy gwr bonheddig o'r gymmydogaeth ar y ffordd, fe gyfarfu åg angladd, a meddyg o'r dref yn ei ganlyn; gofynodd y meddyg iddo, i ba le yr oedd yn myned, attebodd y taeliwr, Yr wyf yn myned â'm gwaith adref, Felly yr ydych chwithau.

Gofynwyd i Wyddył, pa ham yr oedd yn gwisgo ei hosan ar y gwrthwyneb, yr atteb oedd, fod tell yn y wyneb arall.

Gwraig o'r Trallwn Coch, wedi bod yn glaf amser mawr, daeth ei gwr adref un prydnawn; y forwyn a ddywedodd wrtho fod y wraig wedi marw; ar hyn, fed drodd yn ei ol, gan ddweud wrth y forwyn ei fod yn' myned i yfed peint neu ddau, ond os bydd fy eisiau, ans fonwch am dan af. Yn mhen o ddautu ddwy awr, fe ddychwelodd y gwr i'r tŷ, ac a ddechreuodd ddadwisgo i fyned i'r gwely fel arferol; pan y dywedodd y forwyn wrtho ei bod wedi parotoi gwely iddo mewn ystafell arall, Na wna, na wna, eb efe; nid wyf wedi cael un diwrnod heddychol er pan priodais, ond yr wyf wedi penderfynu i fwynhau un noswaith dawel cyn yr ymadawom.

Gwyddyl ac Ysgottyn, oeddent yn llettya un noswaith yn Bynbiga, y cynhauaf gwair diweddaf, pan oedd y tywydd yn frwd iawn, y Gwyddyl, gan y gwres, a yfgwydodd y dillad oddiar ei draed, pa rai oeddynt yn