Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/22

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yr offeiriad a ofynodd iddo yn lled sarrug, pwy oedd wedi rhoddi y goat newydd hyny iddo? Yr un (ebe y bugail, Jag sydd yn eich dilladu chwithau, y plwyf;

yr

offeiriad a trochodd beth am yr atteb, ac a farchogodd ymaith dan grintachu, ond cyn myned yn mhell, fe barodd i'r gwas fyned yn ei ol at y bugail, a gofyn iddo, os deuai i fyw ato ef, oblegid yr oedd eisiau ffl arno, a'i fod yn tybied mai efe oedd y dyn a wnelai ei dro ef oreu o neb: y gwas a wnaeth fel y gorchymynodd ei feistr; ar hyn, gofynodd y bugail iddo, os oedd efe yn ymadael â'i wasanaeth, Nag wyf, ebe y gwâs, O! ebe y bugail, dywedwch wrth eich meistr fy mod yn golygu ei bersoniaeth yn rhy fach i gynnal tri fil.

Gwr bonheddig o , a ofynodd i offeiriad ag oedd yn eiftedd ar giniaw gydâ ef, Pa beth yw yr achos fod yr ŵydd yn sicr o gael ei gosod yn nesaf at yr offeiriaid ar y bwrdd? Yn wir, y mae eich gofyniad mor rhyfedd, ebe yr offeiriedyn, fel na chaf weled gŵydd byth mwyach, heb feddwl am eich mawrhydi.

Yn ffair haf Caftell-newydd fe aeth Porthman i dŷ tafarn yno, ac a alwodd am giniaw; Gwraig y tŷ a ddywedodd ei bod yn rhy gynnar, nad oedd yno ddim yn barod ond darn o gig eidion, ac y byddai yn well iddo aros banner awr; yr hyn a wrthododd efe, gan fod ei achos yn galw arno yn fuan: ar hyn, fe ddygwyd y cig eidion ger ei from ac yntau a ddechreuodd dori beth ar bob pen iddo; hyn a barod i'r wraig ddeisyf arno i'w dori yn brydferth heb fod yn anferth; Peidiwch a blino am yr annibendod, ebe yntau, fe gaiff y gweddill fod yn ddigon cryno: y gwr a fu mor fwynaidd a gadael yr asgwrn ar y ddysgl.

Hen idler ag oedd yn arferol o grwydro ar hyd y wlad, ac nid yn rhy ofalus am ddychwelyd adref tua thir ei enedigaeth, a gyfarfu yn ffair Rhôs âg un o'i gydnabyddiaeth, yr hwn oedd wedi clywed ei fod wedi marw er ys blyneddau, a annerchodd y crythwr fel hyn, Siarl, a ydwyt ti yn fyw hyd yn hyn? Ydwyf, ac os bosibl i ti ddanfon neb i'm lladd i, Sien, O, na ddo, and yr oeddwn wedi clywed dy fod marw, minnau a