Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/23

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

glywais hyny, ebe Siarl, Ond myn D——l, mi adnabum y celwydd yn fuan.

Gwro Langynhafael, oedd yn llawen ac yn ddifyr iawn yn mhob cyfeillach yr elai. Un waith, sylwodd un ferch ieuanc with un o'i gydnabyddiaeth, os oedd y dyn yna yn briod; Y mae'n sicr fod ei wraig yn byw'a ddedwydd, gan ei fod yn grwth y cwmpeini; Gwir, ebe yntau, ond y mae yn hongian y grwth yna gartref y tu allan i'r drws. Grwth o sain arall sydd yn dyddanu y wraig a'r plant.

Doctor D—— Physygwr enwog, a aeth i ymweled â gwraig fonheddig o'r dref, ag oedd wedi cadw ei yftafell dros lawer o dyddiau gan dybied ei hunan yn glâf; efe a ofynodd iddi lawer o gweftiynau; yn mhlith ereill, A ydych chwi yn gallael cysgu llawer ? Ydwyf, yn dda ddigon. Oes awydd ynoch am fwyd yn tynych? Ni bu erioed fwy. A ydyw eich anadl yn cerdded yn rhwydd? Nid oes aches fod gwell. Purion, ebe y meddyg, a mi a ddeuaf yma yn y prydnawn; ac erbyn hyny, mi a barotoaf foddion i symud yr arwyddion yna, ac er fy anrhydedd, gellwch hyderu y gwnaf fy ngoreu.

Gwr bonheddig, nid pell o Gwmnedd, a aeth i'w ardd ar brydnawn gwresog yr hâf diweddaf i rodio, ac mewn lle cysgodawi efe a ganfu ei arddwr yn gorwedd yno; y gwr a fytheiriodd arno, Beth, ai cysgu yr ydych, y chwiwgi diog? Nid ydych gan eich diogi, yn deilwng i'r haul ddysgleirio arnoch, dylasech fod wrth eich gwaith. Yr wyf, ebe y garddwr, yn hollol ystyriol 'm annheilyngdod; ac am hyny, mi a orweddais yn y cysgod.

Gwr o dymherau anmhwyllog, ag oedd yn byw yn agos i Fachynlleth, a gafodd ei gystuddio yn galed gan ddolur yr Hydref diweddaf, a llawer yn tybied fod ei awe ddiweddaf, yn dirwyn yn fuan, fel ag y daeth rhai bobl ddefosiynol ato, i ymresymu âg ef; un o honynt, yn mhlith geiriau ereill, a geisiodd ganddo alw ar Dduw; y claf a attebodd, Mi a fyddaf sicr o alw arno os âf yn yfordd hyny; ond gwell genyf beidio addaw, rhag ofa mai ffordd arall fydd fy siwrnai nesaf,