Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/25

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

bychan iawn ganddo, yn mron bod heb ur; Y barn.wr a dywedodd wrth y cyfreithwr, ei fod yn ofni bod ei facer ef yn gloft iawn. Cymmerwch chydig o bw, il, ebe y cyfreithwr, ac nid oes dim braw arnaf nad allaf brofi, trwy dyftion, wirionedd fy honiadau, mor eglur a r trwyn sydd ar eich gwyneb chwi.

Meddyg lled enwog o Cheltenham, oedd yn chwennych addysgu mab ieuanc yn y ddyscyblaeth physygawi, a phob amser yn ei gymmeryd i ymweled â chleifion, er mwyn ei ddiwygio yn y gelfyddyd. Unwaith, aethant ill dau at ŵr claf, wrth yr hwn y dywedodd, y dysgedig, O Syr, yr ydych wedi ymddwyn yn annoeth awa; yr ydwyf yn deall eich bod wedi bwyta wytrys, (oysters.) Ydwyf yn wir, 'chydig, ebe y claf; ond nid oeddwn yn meddwi gwnaent niwed. Ni allasech gymmeryd dim a fuasai gwaeth, ebe y meddyg; hyn a barodd i'r ysgolhaig ryfeddu gwybodaeth yr athraw, a gofyn iddo, pa fodd y deallodd ei ymborth cyftal? ond y welais i'r cregin dan ei wely, ebe y doeth. Wedi hyn, aeth y mab ieuanc i ymweled â'r un gwr; ond nid hir bu cyd dyfod adref an ddigon drwg ei olwg, yr hyn a barodd i'r athraw ofyn iddo pa beth oedd ei fater? Yntau a attebodd, Mi a gefais fy nhroedio allan o'r tŷ. Am ba beth, ebe yr hen geiliog. Dim yn y byd, ond dweud ei fod wedi ymddwyn yn annoeth, ei fod wedi bwyta ceffyl. 'Does bosibl i ti fod mor ynfyd, ar fy Ed, ebe y gwalch, yr oedd cyfrwy, gwarthaflau, a ffrwyn, o dan y gwely !!

Llanc led ddigrif, o Gaftell-Newydd, a wnaeth achwyn with Ustus yr Heddwch, fod cymmydog iddo yn bygwth ei ladd ef. Yr ustus a ddywedodd wrtho, am beidio a blino, byddaf yn sicr o fynnu gweled ei grogi ef cyn pen pum munud, os efe a ryfyga y weithred; Diolch i chwi, ebe y Cenau; ond fe fyddai lawer mwy boddlongar i mi, pe buasech yn ei lindagu ef ddwy awr yn mlaen llaw.

Offeiriad, o Sir Benfro, oedd yn y swydd o ddarllain claddedigaeth; ond heb gofio pa un ai corff gwr neu wraig ydoedd yr hyn a barodd iddo ofyn i un o'r galar-wyr, yn ddiftaw, pa un a'i brawd neu chwaer; nid un o'r ddau, ebe y gwr, ond ein bod yn gyfeillion caredig.

C