Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/27

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Offeiriad Sir Fôn, ag oedd yn chwannog i ddisychedu ei hun, a dybiodd fod yr awr weddi yn llesgach ar ei thro nag erioed; ond wedi iddo wybod sicrwydd am yr amser; fe symudodd ei hun gynta' byth ag y gall'sai, tua y Llan, ac yn ei frys, a pheth annibenrwydd hefyd, yr oedd yn methu cael ei wisg am dano; yr hyn a barodd iddo sisial dan ei ddannedd, A ydyw y Dl yn hon? Y clochydd, pan gynta' y gwelodd ef wedi cael y wisg am dano, a attebodd, Os nad oedd y D-l gynne ynddi, nid oes heb all ammeu nad yw ef ynddi yn awr.

Un o'r gwyr parchus hyny ag sydd yn byw ar yspeilio eu cyd-greaduriaid, a gyfarfu yn ddiweddar â Syr F. B. ac a'i cyfarchodd yn garedig, gan ddweud wrtho, Yr ydym ein dau wedi bod yn holl garcharau y wlad; Camsynied yw kyny, ebe Syr F. B. nid wyf fi wedi bod yn un ond yn y Tŵr, Yr wyf finnau wedi llettya yn mhob un o'r lleill!

Gwyddyl, yn ddiweddar a aeth i Langollen, ac a gymmerodd arno fod yn Fudan, heb fedru dweud un gair; wrth ei weled felly, fe lynodd tofturi llawer wrtho, ac a dderbyniodd o'u haelioni. Un o'r un wlad ag ef ei hunan, a ofynodd iddo, Oddiar pa bryd yr ydych chwi yn y cyfwr yna? Yr wyf yn fad er ys pedair blynedd!

Yr un gwalch a ddygwyddodd gael siercyn newydd ; dywedwyd wrtho, fod ei goat yn fyr iawn. Peidiwch a blino am hyny, ebe yntau, yr wyf yn sicr y bydd yn hir cyn y caf un yn ei lle.

Mab ieuanc, nid gwbl mor ddoeth a Solomon, a giniawodd yn y Gelly, Yftwyll diweddaf, ac i ddybenu ei fwyd, gwnaeth roesaw mawr iddo ei hunan ar gosyn ag oedd yn llawn gwiddon, ac a foftiodd wrth y cyfeillion ag oedd yn bresennol, iddo wneud cymmaint o wyrthiau a Sampson; lladd miloedd a deng miloedd: Gwir, ebe un o'r cwmpeini, ac â'r un arf hefyd, Asgwrn gen asyn.

Gofynwyd i un ag oedd newydd briodi, pa beth oedd ei reswm am briodi gwraig mor fychan o gorffolaeth; Yntau a attebodd, o bob beth drwg, gorau y lleiaf.

Dau fab ieuanc, ag oedd yn tybied yn wych am danynt eu hunain, oedd yn sefyll yn y Porth-Tywyll, yn