Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/28

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Nghaerfyrddin, a ganfuant ferch yn myned heibio; Un o honynt a ddywedodd wrth y llall, dyna'r ferch lanaf a harddaf a welais erioed. Hithau a'i clywodd, ac a drôdd yn ol, ac a sylwodd nad oedd ei bryd ef y mwyaf llyfn, a ddywedodd wrtho, Byddai yn dda iawn genyf, pe bawn yn gallu dweud yr un peth am danoch chwithau. Ar fy Ed, chwi ellwch, ebe yntau, a dweud celwydd, yr un modd a minnau.

Gwyddyl, yn ei Ewyllys ddiweddaf, a wnaeth y dy. muniad hynod hyn, Y mae arnaf lawer o ofynion; nid oes genyf ddim tu ag at eu talu, ac yr wyf yn rhoddi gweddili i'r tlodion.

Twm o'r Nant, yr amser yr oedd coed Abermarlais yn cael eu cludoi Gaerfyrddin, a ddigwyddodd fod un diwrnod yn anffortunus iawn yn ei daclau; yr oedd rhyw beth yn tori yn gyson arno, bob cynnyg a wnae i gael y dderwen i'r olwynion. Ond, ebe Twm, yn ei wŷn, Y Dla godo'r moch, na buasai un o honynt yn agor ei safn am y fesen cyn iddi dyfu yn dderwen.

Yn agos i Gaerlleon, gwnaeth dyn tlawd ddau gynnyg ar foddi eu hunan; ond bob tro, a attaliwyd gan Wyddyl ag oedd yn ei lusgo allan o'r dwfr; Yntau, wedi penderfynu ar hunan-laddiad, a aeth lle gwelai'r Gwddyl, ac a ymgrogodd; ac ni wnaethwyd cymmaint a'i rwyftro: hyn a barodd i rai anfoddloni yn fawr am ei esgeulusdod. Pat a ddywedodd, Yr oedd yn wlyb i'r croen, ac ni allasai ddyfeisio gwell ffordd at sychu ei

hunan.

Chaplain un o'r llongau rhyfel, pan oedd y lleftr yn cael ei hysgwyd yn greulon gan 'ftorom, a ofynodd i un o'r morwyr, Os oedd yn meddwl fod y perygl yn fawr. Y mae gymmaint, ebe y morwr, fel ag yr ydym yn debyg o fod yn y nefoedd cyn deuddeg o'r gloch; y Prelad a frawychodd ar yr ymadrodd, ac a lefodd allan, Na ato Duw.

F. H. a gyhuddwyd o briodi pump o wragedd. Y barnwr a ofynodd iddo, Pa beth oedd ei reswm i gymmeryd cynnifer o wragedd; Yn wir, treio cael un dda oeddwn. Oh, Oh, ebe y barnwr, fe allai y llwyddech