Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/29

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn well yn y byd nesaf: ac yn y fan, a 'sgrifenodd warrant ei ddihenyddiad !!!

Gwr bonheddig, oedd yn myned trwy Dregaron, a ganfu ddyn yn cael ei guro yn greulon gan ddyn arall; y cieidd-dra ag oedd yn ddyoddef, a dueddodd y bonheddig i erfyn ar y trechaf i adael y llall i godi; Yn wir, ebe yntau, Nid oes genyf fawr o flås at hyny, Nidychydig o drafferth gefais i blygu y llanci̇r man ile gwelwch ef.

Crefyddwr tra blodeuog ag oedd yn gwerthu amrywiol bethau, a ofynodd i'w was un bore; A ydwyt wedi dwfrhau y Brandy? Ydwyf. Ydwyt ti wedi cymmysgu peth Sand yn siwgr? Ydwyf, ronyn. A ddarfu ti wlychu y Tobacco yn dda? Gwnaethum yn weddol. Wel, wel, gan dy fod yn flaenllaw ar dy waith, tyred, ac awn i weddi.

Twm Sion Cati, a gyfarfu â gwr bonheddig ag oedd wedi yfed ar y mwyaf; parodd hyn i Twm ddweud wrtho, Fod pob meddwyn yn debyg i Ddulluan, i Gardotyn, i Ddiawl, ac i Arglwydd, fel Dulluan, o herwydd ei fod yn methu gweled; fel Cardotyn, am ei fod yn eon; fel Diawl, am fod ei ogwyddiad at ddrygioni; ac fel Arglwydd, am ei fod yn bob peth ag sydd ddrwg !!!

Llanc lled ysmala, a aeth un noswaith ar fwriad i 'speilio gardd afalau; ond erbyn iddo frathu ei ben trwy y berth, y Garddwr a'i canfu, ac a waeddodd allan, I ba le yr ydych yn myned, Syr? Yntau a dynodd ei ben yn ol, ac a ddywedodd, Yn fy ol, Syr.

Sion Clement, wedi rhoddi benthyg dau guinea i un nad oedd yn ofalus iawn i ddweud y gwir, a gyfarfu âg ef ar ol hir absennoldeb, a dymunodd arno ei dalu ef, gan ei fod mewn mawr eisiau; Y dyledwr a ddywe ad, Y byddai yn sicr o'i daliad mewn rhyw lun, yn fuan iawn; Diolch i chwi; ond gwnewch ef mor agos ag y galloch at lun dau guinea.

Un o'r bechgyn llawen a alwodd mewn siop Eilliwr, yn Aberhonddu, (heb wybod fod siol hwnw yn berchen yinenydd,) ac a ofynodd i weinidog yr ellyn, os oedd