Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/3

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llym, gan nad oedd yn gyson â'i broffes; y duweinyddion, pan welsant hyn, a ddechreuasant floeddio fod yn rhaid iddo fod yn gyson â'r cwmpeini, ac y mynent yfed y iechyd neu'r dymuniad oddiwrtho;—Wel, ebe yntau os yw wedi myned i'r fath gyfyngdra, mi a dreiaf ddweud gair a'ch boddlona; a chan godi ei fflagen at ei enau, fe ddymunodd fel hyn, "Bydded attalfa i ddyfod ar y Locustiaid duon, sydd yn difa y ddegfedd ran o lafur ein gwlad."—Gellwch ddeall yr effaith yn lled dda. Un o'r gwyr eglwyfig uchod ag oedd yn chaplain yn y fyddin, a aeth yn mhen ychydig ddyddiau i giniaw at ei gyd—swyddwyr (officers) yn y gwersyll, (tent) ac wedi yfed peth, galwyd ar y capelwr am doast, neu iechyd da rhyw un neu gilydd.—Y capelwr a geisiodd ganddynt yfed iechyd Buonoparte. Beth ein gelyn? ebe y llywydd (general,) ië yn siwr, ebe y capelwr, waith yr ydych yn byw arno. Y llywydd, yn ei dro, a gynnygodd y diawl yn brif destun; ar hyn cododd y capelwr ar ei draed, ac a ofynodd i'r llywydd os oedd yn bwriadu ei gyffroi i dymher ddrwg? Nac wyf, ebe y llywydd, nac yn meddwl y fath beth, ond yr wyf yn meddwl ei fod yn ddyled ar bawb i fod yn barchus i'r gwr fyddo yn' eu cynnal."

Yn ffair Bryste ddiweddaf yr oedd llawer o greaduriaid rheibus a dyeithr wedi cael eu cludo yno, ac nid ychydig o arian oedd y perchenogion yn wneuthur o honynt. Yr oedd, nid yn unig y boneddigion, ond hefyd crefftwyr a phobl gyffredin, o ran cywreinrwydd, yn myned i'w gweled; ar un prydnawn, aeth Merchant enwog sydd yn byw yn agos i Clifton, a'i wraig, i weled un Shew ag oedd yn cynnwys Llew, Blaidd, Hyena, Porcupine; tri neu bedwar o Faboons, a chynnifer a hyny o Fwngciod; ac yn y naill gornel o'r cerbyd, yr oedd yno Epa (Ape) gymmaint ei faintioli a gŵr canolig o gorffolaeth; pan ddaeth y wraig yn agos ato, fe gipiodd ei bonnet ymaith, ac a'i gosododd ar ei ben ei hun, gan wneuthur llawer o ystymiau arni; y masnachwr a lidiodd yn greulon wrtho am ei arweddiad, a dywedodd, Syr, y mae eich ymddygiad yn anfoesol iawn peth rhyfeddi'ch rhieni eich gadael wrth mor lleied addysg,—beth gwatwor hen wraig mor barchus ag yw fy