Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/30

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn gyfarwydd i eillio Monciod? Ydwyf, Syr, deuwch i mewn ac eisteddwch yn y gadair: bydd y dwfr yn barod yn fuan,

Gwraig flonegog yn agos i Rosan, a ofynodd i Hwsmon, Os gallai hi fyned trwy y porth i dref Caerloyw pan byddai hi yn nos? Gellwch o'r gorau, ebe y Gwladdwr, y mae fy wagen i yn gallael myned yn rhwydd yn ddirnaf.

Dau gyfaill llawen, a gyfarfuant â bachgenyn, ac a ofynasant iddo, Siencyn, Pa sawl milldir sydd oddi yma i Ferthyr? Yntau a ofynodd, Pa fodd y daeth iddynt i wybod ei enw ef? O, ebe hwy, Consiwrwyr ydym ni, ac yr ydym yn berchen hyspysrwydd; Nid cymmaint o kyspysrwydd na chonswriaeth, onid ê, ni buasai achos î ihai ofyn y ffordd.

Bachgenyn gwladaidd, a orchymmynwyd gan ei rieni i fyned i'r eglwys i adrodd ei Gatechism; Yr offeiriad a ofynodd, Beth yw dy enw? Siencyn. Pwy a roddes yr eaw hwnw arnat ti? Fy nhadau bedydd a mamau bedydd, &c. Pa beth a addawsant wneuthur yr amser hwnw drosot ti? Hwy a addawsant lawer o bethau i mi, pan deuaf yn rhydd o'm prentisiaeth; ond hyd yma, nid ydynt wedi gwneuthur dim.

Plantos drygionus a gyfarfuant â hen wraig yn gyru bagad o asynod; ond yn lle gadael yr hen wraig i fyned i'w ffordd yn esmwyth; cymmerasant yn eu penau i roi iddi dafod drwg, ac yn mhlith geiriau anmharchus ereill, cyfarchasant hi â Bore da i chwi mam yr asynod, Felly chwithau, fy ngharenydd, ebe yr hen wrâch.

Sian William, o Bontfaen, oedd yn cael ei holi yn lled fanol gan gyfreithwr enwog, yn sessiwn Caerwrangon, a. mhlith geiriau ereill, gofynodd iddi os oedd hi wo dyfod i'r llys, yn y dyb o gael ei chymmeryd yn femyo ddiwair: hithau a attebodd, Nac ydwyf, canys yr hyn a fu fy ninyftr i sydd wedi bod o les mawr i ti; yr wyf yn meddwl llawer o ddigywilydd-dra.

Gwyddyl oedd yn siarad yn Abergwaun yn ddiweddar, yn nghylch y weithred o hunan-leiddiad, a ddywedodd. nad oedd un ffordd yn y byd i'w rwyftro, ond trwy ei gwneuthur trwy gyfraith yn brif-drosedd, ac na byddai y gosp ddim llai na marwolaeth.