Gwraig o Raiadr, oedd yn crintachu yn greulon â'i gŵr, am ei fod wedi treulio llawer o amser mewn tafarndy, ac wrth ei ddifrio ef yr oedd hi yn fynych iawn yn cymmeryd y geiriau uffern, diawi, &c. yn ei genau ; ond o'r diwedd, blinodd y gwr ar ei chleber, ac a ddymunodd arni fod yn ddiftaw, ac yn hynod dim, i beidio a bwgwth y Diawl arno; Gelli ddeall yn dda na wna hwnw ddim niweid i mi, gan fy mod yn briod â charennydd agos iddo !!!
Sawdiwr oedd yn dyfod dros y morfa dû yn Morganwg, ar ei daith tua Milffwrd; yn ddiswmwth, gwnaeth gwaedgi gynnyg erchyll ar ei gnoi; yntau i amddifyn ei hun a dynodd ei gleddyf, ac a'i trywanodd nes oedd yn farw; am y weithred, dygwyd ef o flaen ustus, yr hwn a daranodd yn erchyll arno, gan ddweud wrtho, na ddylasai ond ei fwrw â bôn ei arf. Yn wir, Syr, ebe y milwr, fe ddaeth y ci ataf â'r pen a'r dannedd y'mlaenaf; minnau, i fod yn roesawgar iddo a'i cyfarchais ef â'r mîn yn lle'r bôn.
Gwr bonheddig yn Liverpool, oedd ag eisiau gwas arno: aeth Gwyddyl i gynnyg ei wasanaeth iddo; ac fel arferol, gofynwyd pwy wladwr ydoedd; i hyn yr attebodd mai Sais oedd; gofynwyd yn mha le y ganed ef, Yn yr Iwerddon, ebe yntau: Pa fodd y gellwch fod yn Sais a chwithau wedi eich geni yn y wlad hono. Pe bawn wedi fy ngeni mewn Stabal, ebe y Gwyddyl, nid yw hyn yn ddigon i brofi fy mod yn Geffyl.
Cyfreithwr o Henffordd, pan yn glaf, ac ar ymyl marwolaeth, a ddymunodd ar un o'i 'sgrifenwyr i ddyfod i wneud ei Ewyllys; ac i fawr syndod yr 'sgrifenydd a'r tystion, deisyfodd i ei holl feddiannau i gael eu rhoddi ar ol ei farwolaeth rhwng dynion gwallgofus a gorphwyllog; parodd y rhoddiad hynod hyn i ymresymiadau celyd gael eu harferyd tú ag ato, ond oll yn ofer; yr oedd wedi penderfynu trefn y rhoddiad ; ei reswm oedd, Gan y cyfryw y cefais i hwynt oll, ac i'r cyfryw y dylent ddychwelyd: eiddo Cesar i Cesar.
Meddyg enwog a ganfu ddyn clafaidd yn yfed ychydig Frandy, ac i ddangos ei hun yn ofalus am ei wellhâd; fe ddywedodd wrtho, Peidiwch âg yfed y fath beth gwen