Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/32

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wynig; Brandy yw y gelyn gwaethaf i chwi. Mi a wn hyny o'r gorau, ebe y claf; ond chwi a ddylech ddeall ein bod yn cael ein hannog yn yr ysgrythyrau i garu ein gelynion.

Yn agos i Dalgarth yr oedd tri o frodyr mewn tafarndŷ, yr oeddynt yn achwyn eu bod wedi cael eu cyftuddio yn fawr gan ddolur yn ddiweddar, ac yn gorfod yfed Ilaeth asenod, ac nid bychan oedd y drafferth i gael y llaeth; Tewch, tewch, peidiwch achwyn yn afreidiol: Pa ham na swgnwch eich gilydd.

Bagad o foneddigion oedd wedi cytuno i giniawa gydâ'u gilydd yn Rhydychen; pan daeth yr awr giniaw, yr oedd un o honynt (meddyg) yn absennol; ar hyn, dywedodd y gwas fod y meddyg yn rhodio yn y fonwent, ac os oeddent yn dewis, y galwai efe arno. Na wnewch, na wnewch, ebe un o'r cwmpeini: nid yw ef ond talu cymmwynas i'w hen gyfeillion!

Gwr gweddaidd o drwsiad, ond yn ymddifad hollol o drwyn, oedd yn rhodio yn Heol-y-Geifr, yn Abertawe, a gafodd ei gyfarch gan wr oedd yn crefu yn galed arno amelusen; ond y goludog a drodd y cluft byddar: hyn a barodd i'r cardotyn i ddeisyf ar i Dduw gadw yn iach ei lygaid." Y dymuniad hyn a gynnygodd amryw o weithiau i'r goludog; ond o'r diwedd, gofynodd iddo ei reswm am y fath erfyniad. Yn wir, ebe y llymrig, pe collai ei olygon ni fýddai ganddo un lle i hongian Spec

tal.

Gwro Dalfarn-Grin, ag oedd wedi bod lawer gwaith yn Llundain, a ddaeth ar dro i dir ei wlad; ac yr oedd yn bostio llawer fod y brenin ei hun wedi siarad ag ef; o'r diwedd gofynwyd iddo pwy eiriau fu rhyngddynt. Yn wir, fe orchymmynodd i mi gilio i'r naill du.

Iuddew, oedd i gael ei ddibenyddio yn Chichester, yn nghyd â dau ereill; ond pan yn y certwn dan y pren, daeth maddeuant i'r Iuddew. Yntau, yn lle llamu ymaith o lawenydd, a arosodd yn y cerbyd, ac a fu yn edrychwr ar dynged y ddau ddyn annedwydd. Llawer o'r edrychwyr mwyaf sobr a ryfeddasant ei éondra, ac nid heb ymresymu peth am ei annheimladrwydd; ond i ddyftewi pawb, Reuben a ddywedodd, ei fod bob