Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/33

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

amser yn caru bargain dda, ac o bosibl y gallaf gytuno â Jack Ketch, am garpiau y tylwyth hyn!

Hen Brydydd a aeth i giniawa i dŷ gwr boneddig y gwyliau diweddaf, ac a gymmerodd ei was gydag ef; y boneddig, ar ol iddynt yfed peth, a ofynodd i hir ei ben, pa beth oedd y rheswm ei fod yn cadw gwas i chwerthyn am ei ben, ac ynte'n bwyta fynycha ar fyrddau ereilt. Mae'n wir, ebe'r Bardd, fy mod yn cadw chwerthynwr, ond yr ydych chwi yn talu cyflog i ddwsin, am wneuthur yr un gwasanaeth.

Yn y sessiwn ddiweddaf yn Stafford, pan yr oedd y barnwr yn cyhoeddi dedryd y gyfraith ar un o'r genedl Wyddelig, fe derfynodd ei araeth â'r geiriau arferol. "Yr Arglwydd a gymmero drugaredd ar eich enaid," Diolch i chwi am eich dymuniad, ebe y carcharwr; ond ni chlywais am neb yn llawer gwell ar ol eich bendith chwi.

Dau gyfreithiwr, wrth fyned o Gaerdydd i Henffordd, a oddiweddasant ddyn yn gyru waggon â chwech o geffylau yn ei thynu; ac o un fryd aethant yn nghyd a chellwair â'r certwynwr, gan ofyn iddo, Pa beth yw yr achos fod y ceffyl blaenaf mor dewed, a'r lleill i gyd cyn guled o gig? Y certwynwr a feddyliodd ynddo ei hun mai creaduriaid y demtasiwn oeddynt, a'u hattebodd, Y blaenaf, fy nghyfreithiwr ydyw; y lleill ydynt wedi bod mor ffol a gadael ei hunain i gael ei blingo ganddo ef, a thrwy hyny gwnaeth ei siaced ei hun yn weddol ddidyllau.

Hen Gybydd, o Drefriw, yn adrodd ei ewyllys wrth ei dri mab, a ddywedodd, Yr wyf yn rhoddi i ti Ned, fy ail fab, fy holl dyddynod, ac yr wyf yn dymuno arnat fod yn gynnil. Ned, mewn trift lais, a ddymunodd ar i'r hen ŵr gael mwynau ei gyfoeth ei hunan. Yr wyf yn dy gyflwyno di fy nhrydydd mab, Simon, i sylw a nodded dy frawd Ned, gan adael i ti bedair mil o bunnau. Yr wyf yn gobeithio, fy nhad, y cewch hir einioes i'w perchenogi eich hunan. Ond am danat ti Dick, eb efe wrth ei fab hynaf, bachgen didoreth wyt ti,