Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/34

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

nid oes awydd ynot am gyfoeth, am hyny dy ddogn di fydd swllt, fel y byddo modd yn dy god i brynu cebyftr. Llawer o ddiolch i chwi, fy nhad anwyl, ebe Dick, dymunwn i chwi gael eich bendithio âg iechyd etto, ac i'ch rhodd fod yn llesiol i chwi yn eich hen ddyddiau, er fy mod yn gwybod ei bod yn ddyledus i chwi er pan oeddych yn fachgen.

Twm Sion Cati, pan oedd yn ieuane, oedd yn chwannog iawn i orwedd yn hir yn y gwely yn y boreuau: hyn a barodd i'w dad ei geryddu yn galed am ei ddiogi, ac edliw iddo ei fawr segurdod, ac a ddannododd fod un bachgenyn wedi cael deg gini ar y ffordd trwy godi yn fore. Pw, pw, ebe Twm, nid yr ennillwr sydd yn codi foreuaf; yr wyf yn siwr fod y colledwr wedi codi yn agos mor fore, onid ê, ni fuasai dim modd i wneuthur ennillwr.

Cymmydog a ofynnodd i Twm, yr amser yr oedd ei wraig yn glaf iawn, Pa fodd yr oedd hi? Yn wir, ebe Twm, cyflwr y teulu sydd druenus, y wraig sy'n ofni y bydd hi farw, a minnau yn ofni mai byw y fydd hi, a rhwng y ddau ofn, credwch fi, nid oes ond cynnaliaeth anghysurus.

Twm, yr amser yr oedd yn arfer y gelfyddyd o Lawfeddyg, a gyrchwyd i ymweled â gwr ag oedd wedi cael ei glwyfo yn lled ysgafn, ac wedi iddo chwilio y clwyf yn lled fanwl, ceisiodd Twm gan un o'r edrychwyr fyned i'r dref i ymofyn plaftr, a dyfod yn ol gyda brys. Y clwyfus, pan glywodd sôn am frys, a ofynodd, A oedd perygl mawr yn ei gyflwr? Mae eich cyflwr cynddrwg, ebe Twm, os na fydd y genad yn fuan iawn ar ei droed, bydd yr anaf yn debyg o wella cyn del dyn llesg yn ol o'i siwrnai.

Mab ieuanc, yn gweled ei dad yn colli llawer iawn o arian, a dorodd allan i lefain yn hidl. Ei dad a ofynodd iddo yr achos ei fod yn wylo? O, fy nhad, mae plentyn llawer concwerwr yn wylo, rhag ofn na fydd na gwledydd na threfydd ar ol, fel y gallo yntef eu hennill; yr wyf finnau yn wylo i'r gwrthwyneb, yr wyf yn lled sicr na fydd ar eich ol chwi gymmaint a chweugain i mi i'w colli.